Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Y Gofrestr Agored

Mae'r gofrestr agored yn ddetholiad o'r gofrestr etholiadol, ond ni chaiff ei defnyddio mewn etholiadau.

Gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu. Er enghraifft, fe'i defnyddir gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau manylion enw a chyfeiriad.

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad ar y gofrestr agored oni bai eich bod yn gofyn iddynt eu tynnu oddi arni. Nid yw tynnu eich manylion oddi ar y gofrestr agored yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio. Gallwch ofyn iddynt gael eu tynnu drwy gysylltu â staff cofrestru etholiadol eich cyngor lleol. Gallwch ddod o hyd i'w manylion drwy nodi eich côd post yn www.aboutmyvote.co.uk.

  • Sut rydw i'n ymuno neu'n gadael y gofrestr agored?

Gallwch newid eich dewisiadau o ran gadael y gofrestr agored ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni, gan ddefnyddio'r manylion ar y dudalen hon. Dywedwch y canlynol wrthym ni:

  • eich enw llawn
  • eich cyfeiriad
  • a ydych yn dymuno cael eich cynnwys neu beidio ar y gofrestr agored.

 

Prynu Copi

Bydd y gofrestr agored yn cael ei chyhoeddi ar 1 Rhagfyr bob blwyddyn.

Bydd y Swyddog Cofrestru'n gwerthu copi o unrhyw ran neu rannau o'r gofrestr agored . Y gost i brynu'r copïau yw:

  • fel data,  £20 a £1.50 am bob 1000 cofnod (neu ran o 1000 cofnod)
  • wedi'i hargraffu, £10 a £5 am bob 1000 cofnod (neu ran o 1,000 cofnod)

Cysylltiadau

  • Ebost: electoral.services@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 826202
  • Cyfeiriad: Gwasanaethau Corfforaethol Cyfreithiol a Democrataidd, Neuadd y Sir, Cofrestru Etholiadol, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Rhowch sylwadau am dudalen yma