Pont Llandrinio i gau dros nos wrth i waith atgyweirio ddechrau
16 Ebrill 2026
Cyn belled â bod y tywydd ac amodau'r afon yn caniatáu, bydd y cam cyntaf hwn o'r gwaith atgyweirio yn dechrau nos Lun 20 Ebrill 2026 am bedair noson yn olynol. Bydd y bont ar gau i draffig o 8pm i 6am nos Lun, nos Fawrth, nos Fercher a nos Iau.
"Mae lefelau dŵr wedi cael eu monitro dros y misoedd diwethaf, ac rydym yn falch eu bod bellach wedi gostwng digon i ni fwrw ymlaen â'r cynlluniau i atgyweirio Pont Llandrinio." Eglura Matt Perry, Prif Swyddog Lle
"Mae adeiledd mor hanesyddol yn haeddu cael ei adfer yn iawn, gan ddefnyddio technegau traddodiadol i ddiogelu cymeriad hanesyddol y bont. Fodd bynnag, bydd amseroedd ar gyfer y rhan hon o'r atgyweiriad yn dibynnu eto ar y tywydd gan y bydd tymheredd isel yn effeithio ar sychu'r morter calch.
"Unwaith y bydd y garreg wedi'i hadfer, byddwn yn gwneud cynlluniau priodol ar gyfer cam olaf yr atgyweiriadau. Diolch am eich amynedd a'ch cydweithrediad wrth i ni weithio i adfer yr adeiledd hanesyddol hwn mewn ffordd ddiogel."
