Ymgynghoriad yn agor ynglŷn â chynlluniau ar gyfer parc technoleg newydd yn y Drenewydd
17 Ebrill 2026
Bydd Asbri Planning yn arwain ar y gwaith i fesur barn y cyhoedd cyn cyflwyno cais cynllunio hybrid ar gyfer safle 4.75 hectar Parc CymruTech, i'r gogledd o Ffordd Llanidloes.
Ar ôl i'r adborth gael ei asesu, nod Cyngor Sir Powys yw ceisio cymeradwyaeth gynllunio lawn ar gyfer ffordd fynediad, cam cyntaf o unedau busnes ac academi sgiliau gwyrdd, a chaniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer unedau pellach a'r AMC.
Gellir gweld copïau o'r cais arfaethedig, ynghyd â chynlluniau a dogfennau ategol, ar wefan Asbri Planning: https://www.asbriplanning.co.uk/statutory-pre-application-consultation/land-to-the-north-of-llanidloes-road-newtown-powys
I'r rhai sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd, mae cyfrifiaduron ar gael yn Llyfrgell y Drenewydd, Lôn y Parc, Y Drenewydd, SY16 1EJ. Mae'r llyfrgell ar agor:
- Dydd Llun a dydd Iau, 9am - 5pm
- Dydd Mawrth, 9am - 6pm
- Dydd Gwener, 8am - 4pm
- Dydd Sadwrn, 9.30am - 1pm
Bydd digwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd hefyd yn cael ei gynnal yn Hafren, Ffordd Llanidloes, Y Drenewydd, SY16 4HU, wrth ymyl safle arfaethedig Parc CymruTech, ddydd Iau 23 Ebrill, rhwng 2 a 6pm.
Dylai unrhyw un sy'n dymuno gwneud sylwadau ar y datblygiad arfaethedig gysylltu ag Asbri Planning drwu: mail@asbriplanning.co.uk neu Asbri Planning Ltd, Uned 9 Oak Tree Court, Mulberry Drive, Parc Busnes Porth Caerdydd, Caerdydd, CF23 8RS erbyn dydd Gwener 15 Mai 2026.
Dywedodd Daniel Burgess, Pennaeth Economi a Hinsawdd Cyngor Sir Powys: "Mae hwn yn gyfle i ddweud eich dweud ar y cynlluniau rydym yn eu datblygu gyda phartneriaid ar gyfer y parc technoleg yr ydym yn dymuno ei adeiladu wrth ymyl Coleg y Drenewydd. Bydd cyfleoedd pellach hefyd i wneud sylwadau pan gyflwynir y cais cynllunio hybrid ac unrhyw geisiadau cynllunio dilynol.
"Ni fydd barn a fynegir nawr yn atal sylwadau pellach rhag cael eu gwneud yn ddiweddarach ond maent yn debygol o fod ar gael i'w gweld gan y cyhoedd."
Mae'r prosiect yn cael ei ddatblygu yn unol â Bargen Twf Canolbarth Cymru, gyda Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru, sy'n atebol am y Fargen Twf, i ystyried achos busnes amlinellol ym mis Gorffennaf.
Gall unrhyw fusnesau sy'n dymuno symud neu ehangu i'r Drenewydd, ac a allai fod â diddordeb i gael eu lleoli ar barc technoleg newydd, ddarparu eu manylion cyswllt a chrynodeb o'u hanghenion drwy'r ffurflen ar-lein hon: https://powysapi.evolutive.co.uk/form/anonymousform/67d2d993b18d8d42d1a24c95?&redirecturl=
LLUN: Argraff artist sy'n dangos sut olwg allai fod ar barc technoleg newydd yn y Drenewydd. Llun: Hiraeth Architecture
