Bydd Powys yn chwarae rhan allweddol yn y Grand Départ Tour de France 2027, gyda chymal tri ras y dynion yn dechrau yn y Trallwng ac yn gorffen yng Nghaerdydd ddydd Sul 4 Gorffennaf.
Bydd y daith yn teithio trwy rai o ardaloedd mwyaf hyfryd Cymru a thros rai o'i ddringfeydd mwyaf heriol, gan gynnwys llawer yn ein sir ein hunain.
Ar ôl gadael prif stryd y Trallwng, a mynd heibio adeilad a gerddi eiconig Castell Powis, bydd y peloton yn teithio i fyny Dyffryn Hafren i'r Drenewydd, cyn troi tua'r de i Landrindod, Llanfair-ym-Muallt, Mynydd Epynt, Aberhonddu a Bannau Brycheiniog.
Mae disgrifiad y Daith ar gyfer cymal tri yn dweud: "Yn cael ei chynnal yn gyfan gwbl yng Nghymru, mae'r cymal hwn nid yn unig yn lladdfa ond mae ganddo ddiweddglo ffrwydrol hefyd a bydd yn rhoi arweinwyr tîm y peloton a pherfformwyr mwy grymus ar brawf."
Bydd cymal y DU yn dechrau yng Nghaeredin ddydd Gwener 2 Gorffennaf 2027, gyda chymal agoriadol yn mynd i Gaerliwelydd, cyn ymweld â Keswick, Lerpwl, y Trallwng a Chaerdydd.
Yna mae digwyddiad chwaraeon blynyddol mwyaf y byd yn mynd yn ôl i Ffrainc gyda diwrnod gorffwys i'r beicwyr.
Dywedodd Christian Prudhomme, Cyfarwyddwr y Tour de France: "Mae'r DU bob amser wedi croesawu'r Tour gydag angerdd a balchder, ac mae'r llwybrau rydyn ni'n eu datgelu heddiw yn adlewyrchu harddwch ac amrywiaeth tir Prydain. Mae dod â'r ddau Grand Départ yma yn destament i gryfder ein partneriaeth gyda Beicio Prydain a brwdfrydedd y DU."
Ychwanegodd Paul Bush, Rheolwr Gyfarwyddwr Grand Départ GB 2027: "Mae'r DU wedi cynnal Grand Départs bythgofiadwy o'r blaen, ond bydd 2027 yn fwy nag unrhyw beth rydyn ni wedi'i weld - gyda'r pelotonau dynion a menywod yn dechrau yma gyda'i gilydd am y tro cyntaf hanesyddol hwn. Bydd hwn yn 'foment i'r genedl' ac mae'n gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ysbrydoli mwy o bobl i brofi llawenydd a rhyddid beicio."
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Jake Berriman: "Does dim mwy o anrhydedd mewn beicio na chynnal Grand Départ y Tour de France. Ers iddo ddechrau gadael Ffrainc yn y 50au, mae'r Tour de France wedi dechrau dramor ar 26 achlysur, gan ymweld ag Iwerddon, yr Eidal, yr Almaen a Lloegr ar hyd y ffordd - ond dyma'r cymal cyntaf i gael ei gynnal yng Nghymru."
Llwybr Tour de France dynion 2027 yn y DU:
Dydd Gwener 2 Gorffennaf | Cymal un: Caeredin i Gaerliwelydd
Dydd Sadwrn 3 Gorffennaf | Cymal dau: Keswick i Lerpwl
Dydd Sul 4 Gorffennaf | Cymal tri: Y Trallwng i Gaerdydd
I ddarganfod mwy ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf am Grand Départs 2027, ewch i: https://www.letourgb.com/