Croesawu'r Tour de France i Bowys ym mis Gorffennaf 2027
Mae Powys yn falch o chwarae rhan ganolog yn Grand Départ Tour de France 2027, wrth i Gymal Tri ras y dynion gychwyn o'r Trallwng ddydd Sul 4 Gorffennaf cyn gorffen yng Nghaerdydd.
Bydd y llwybr yn arddangos rhai o dirweddau mwyaf trawiadol Cymru, gan gynnwys dringfeydd heriol a golygfeydd eiconig, gan gynnwys llawer ar draws ein sir ein hunain.
Mae'r dudalen hon yn dwyn ynghyd bopeth sydd angen i chi ei wybod, gyda dolenni defnyddiol i wybodaeth allweddol, diweddariadau ac adnoddau am y digwyddiad, gan gynnwys:
manylion ac amseroedd y llwybr
cau ffyrdd a chyngor teithio
cyfleoedd cymunedol a gwirfoddoli
gwybodaeth am ddigwyddiadau lleol a
chanllawiau i ymwelwyr
Edrychwch ar yr adrannau isod i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd fwyaf perthnasol i chi.
Gwybodaeth ddefnyddiol os ydych chi'n mynychu Tour De France 2027