Gwasanaeth Ieuenctid Powys yn Dathlu Llwyddiant y Marc Ansawdd
13 Mai 2026
Mae'r wobr genedlaethol yn cadarnhau bod y gwasanaeth yn bodloni safonau cryf ar draws pob maes ymarfer, gan amlygu ei ymrwymiad i ddarparu gwaith ieuenctid diogel, cynhwysol ac effeithiol i bobl ifanc 11 i 25 oed - gan gefnogi blaenoriaethau'r cyngor yn uniongyrchol i wella lles, lleihau anghydraddoldebau a darparu cymorth a gwaith atal cynnar, gan gyfrannu at Bowys Gryfach, Tecach a Gwyrddach.
Canmolodd aseswyr weledigaeth glir y gwasanaeth, staff ymroddedig a phartneriaethau cryf, yn ogystal â'r ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael - o glybiau ieuenctid a gwaith allgymorth i gymorth wedi'i dargedu i'r rhai sydd ei angen fwyaf.
Gosodwyd pobl ifanc yn gadarn wrth wraidd yr asesiad, gyda chydnabyddiaeth benodol o sut mae eu lleisiau'n llunio gweithgareddau a gwasanaethau. Roedd yr adborth yn tynnu sylw at effaith gadarnhaol gwaith ieuenctid wrth feithrin hyder, gwydnwch ac ymdeimlad o berthyn.
Dywedodd y Cynghorydd Sandra Davies, Aelod Cabinet Cenedlaethau'r Dyfodol:
"Mae hwn yn gyflawniad gwych i'n Gwasanaeth Ieuenctid ac mae'n adlewyrchu ymroddiad ac angerdd ein staff a'n partneriaid.
"Yn bwysicaf oll, mae'n tynnu sylw at y gwahaniaeth cadarnhaol y mae ein gweithwyr ieuenctid yn ei wneud bob dydd ym mywydau pobl ifanc ledled Powys. Drwy gefnogi lles, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau a darparu cymorth cynnar, rydym yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac yn helpu i adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i'n cymunedau.
"Diolch i'n holl staff a'n partneriaid sy'n helpu i ddarparu'r ddarpariaeth wych hon i'n pobl ifanc"
Mae'r wobr yn ddilys am dair blynedd ac yn adlewyrchu ymroddiad parhaus staff a phartneriaid i ddarparu gwasanaethau ieuenctid o ansawdd uchel ledled Powys.
