Cadeirydd Newydd Cyngor Sir Powys wedi'i benodi
14 Mai 2026
Etholwyd y Cynghorydd Geoff Morgan, sy'n cynrychioli ward Dyffryn Ieithon, yn gadeirydd yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y cyngor ddydd Iau, 14 Mai, gan olynu'r Cynghorydd William Powell, aelod lleol dros ward Talgarth.
Etholwyd y Cynghorydd Danny Bebb, aelod lleol dros Yr Ystog, yn Is-gadeirydd y cyngor yn yr un cyfarfod, ac etholwyd y Cynghorydd Peter James, aelod lleol dros Lanwrtyd, yn Is-gadeirydd Cynorthwyol.
