Cyllid a chymorth busnes er mwyn helpu busnesau yng Nghanolbarth Cymru i fabwysiadu technoleg LoRaWAN glyfar
20 Mai 2026
Gall busnesau cymwys yng Ngheredigion a Phowys wneud cais am grantiau o hyd at £4,999 er mwyn cynorthwyo gyda'r gwaith o brynu a gosod dyfeisiau, synwyryddion a phyrth wedi'u galluogi gan LoRaWAN. Cynlluniwyd y cyllid er mwyn helpu busnesau i integreiddio technolegau digidol clyfar, nad ydynt yn defnyddio llawer o bŵer, yn eu gweithrediadau dydd i ddydd, gan wella effeithlonrwydd, lleihau costau a chynorthwyo penderfyniadau gwell.
Un o brif nodweddion y prosiect yw'r ffaith nad oes gofyn cael gwybodaeth dechnegol flaenorol. Bydd Antur Cymru yn cynorthwyo busnesau trwy gydol y prosiect, gan ddarparu canllawiau ymarferol o'r cychwyn. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo yn ystod y broses o wneud cais am grant, helpu busnesau i nodi achosion defnydd ymarferol a pherthnasol, rhoi cyngor am y dyfeisiau a'r synwyryddion mwyaf priodol, a thywys y defnydd er mwyn sicrhau bod datrysiadau yn cael eu gweithredu mewn ffordd effeithiol.
Mae technoleg LoRaWAN yn cynnig ystod eang o gymwysiadau ymarferol ar gyfer busnesau ar draws Canolbarth Cymru. Er enghraifft:
- Amaethyddiaeth a rheoli tir - caiff ei ddefnyddio i fonitro cyflwr y pridd, olrhain anifeiliaid a rheoli adnoddau dŵr mewn ffordd fwy effeithlon.
- Busnesau twristiaeth a lletygarwch - trefniadau rheoli ynni a monitro amgylcheddol gwell ar draws safleoedd llety.
- Lleoliadau masnachol a gweithgynhyrchu - cymorth wrth olrhain asedau, monitro offer a chynllunio gwaith cynnal a chadw.
- Busnesau manwerthu ac sy'n seiliedig ar wasanaethau - monitro tymheredd, defnydd ynni a stoc.
Mae cymwysiadau monitro amgylcheddol, megis rhybuddion llifogydd a synwyryddion ansawdd aer, yn cynnig dirnadaeth werthfawr i fusnesau sy'n gweithredu ar draws lleoliadau gwledig ac anghysbell hefyd. Mae modd gweld manylion pellach am y dechnoleg ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru isod.
Trwy gyfuno cyllid gyda chymorth arbenigol, nod y prosiect yw gwaredu'r rhwystrau a helpu busnesau i fabwysiadu technoleg mewn ffordd sy'n cynnig manteision ymarferol go iawn - gan ddatblygu gallu digidol dros y tymor hwy ar draws y rhanbarth.
Mae'r prosiect yn rhan o Raglen Ddigidol Tyfu Canolbarth Cymru, sy'n cynorthwyo twf economaidd rhanbarthol dros y tymor hir trwy well gweithgarwch mabwysiadu digidol. Mae'n eistedd o fewn Bargen Twf ehangach Canolbarth Cymru - buddsoddiad o £110m gan Lywodraethau Cymru a'r DU er mwyn cynorthwyo seilwaith economaidd, gwella cynhyrchiant a datgloi buddsoddiad cyhoeddus a phreifat pellach ar draws y rhanbarth.
Dywedodd Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, a Chynghorydd Jake Berriman, Arweinydd Cyngor Sir Powys, Cyd-Gadeiryddion Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru: "Rydym yn cydnabod bod mabwysiadu technoleg newydd yn gallu teimlo fel cam arwyddocaol i nifer o fusnesau, yn enwedig pan fo gofyn cael gwybodaeth arbenigol.
"Cynlluniwyd y fenter hon er mwyn gwaredu'r rhwystrau hynny, trwy gyfuno cyllid ar ffurf grantiau wedi'i dargedu, gyda chymorth arbenigol ymarferol - nid oes angen i fusnesau fod yn arbenigwyr ym maes technoleg i fanteisio ar hyn. Gall y prosiect hwn wneud gwir wahaniaeth i'w gweithrediadau, eu cynhyrchiant a'u twf."
Cefnogir busnesau trwy gydol y cyfnod gan Antur Cymru, sy'n darparu'r prosiect ar ran Tyfu Canolbarth Cymru, gan ddarparu canllawiau ymarferol o'r cychwyn cyntaf.
Dywedodd Kevin Harrington, Rheolwr Datblygu Busnes, Antur Cymru: "Mae'n bleser gan Antur Cymru weithio gyda Chynghorau Sir Ceredigion a Phowys, trwy gyfrwng rhaglen Tyfu Canolbarth Cymru, er mwyn cyflwyno Prosiect Ysgogi LoRaWAN.
"Am dros 2 flynedd bellach, rydym wedi bod yn darparu'r prosiect Busnes SMART, a ariannwyd trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a bydd y prosiect hwn yn datblygu'r perthnasoedd yr ydym wedi eu meithrin gyda Busnesau Bychain a Chanolig yng Nghanolbarth Cymru er mwyn manteisio ar y cyfleoedd y mae rhwydwaith LoRaWAN a dyfeisiau IOT (Rhyngrwyd Pethau) yn eu cynnig er mwyn gwneud eu busnesau yn fwy cynaliadwy dros y tymor hwy. Bydd y prosiect yn arloesi o ran y ffordd y mae busnesau yn gweithio, gan wella eu perfformiad busnes a hefyd, cynnig gwersi ymarferol am arfer gorau busnes trwy fabwysiadu Technolegau Digidol"
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price AS: "Mae gwella cynhyrchiant yn allweddol i ddatgloi potensial economi Cymru, ac mae hynny'n golygu sicrhau bod gan fusnesau ym mhob rhan o'r wlad yr offer a'r cymorth sydd eu hangen i dyfu ac arloesi. Mae prosiectau fel hyn yn dangos ffyrdd ymarferol o gynyddu mabwysiadu digidol, gyda chefnogaeth cyllid Llywodraeth Cymru drwy Fargen Twf Canolbarth Cymru."
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Anna McMorrin AS: "Mae cefnogi busnesau Cymru i dyfu yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth y DU. Mae'r buddsoddiad yn Nghynllun Twf Canolbarth Cymru yn sicrhau gwelliannau gwirioneddol i fusnesau ar draws y rhanbarth, gan gynorthwyo'r economi leol a chreu mwy o swyddi.
"Bydd y rhaglen newydd hon yn golygu y bydd BBaCh ledled Canolbarth Cymru yn cael mynediad at gyllid a chymorth technegol i gynyddu eu cynhyrchiant a'u helpu i lwyddo."
Anogir busnesau sydd â diddordeb mewn ymgeisio i Fynegi Diddordeb trwy wefan Tyfu Canolbarth Cymru: www.tyfucanolbarth.cymru/LoRaWAN
LLUN: Aelodau Antur Cymru sy'n darparu'r prosiect ar ran Tyfu Canolbarth Cymru (Ch-Dd) Lynne Rees, Alex Matthews, Emma Jehu.
