Cymeradwyo cyllid pellach i gyflawni Prosiect Llynnoedd Cwm Elan
21 Mai 2026
Mae'r penderfyniad yn galluogi'r prosiect i symud ymlaen i'w gam nesaf, ar ôl cwblhau'r broses achos busnes a sicrwydd gofynnol.
Ym mis Mawrth 2025, derbyniodd y prosiect £565,500 o gyllid Bargen Twf i gefnogi gweithgarwch cyflawni cynnar. Mae hyn wedi galluogi gwaith cychwynnol i ddechrau ar elfennau allweddol, gan gynnwys cynlluniau i ehangu'r goedwig law Geltaidd a dyluniad canolfan ymwelwyr newydd, gan nodi'r pontio o'r cam cynllunio i'r cam gweithredu.
Yn dilyn cymeradwyaeth y Bwrdd, bydd Dŵr Cymru yn derbyn £3.81 miliwn ychwanegol i symud ymlaen â chyflawni'r prosiect llawn, gan ddod â chyfanswm cefnogaeth Bargen Twf ar gyfer yr elfen hon i £4.37 miliwn. Mae'r buddsoddiad hwn yn rhan o becyn ehangach i gyflawni'r cynllun yn llawn, ac yn cael ei ategu gan fuddsoddiad o 50% gan Dŵr Cymru, gan adlewyrchu ymrwymiad ar y cyd i gyflawni'r prosiect.
Bydd cyllid y Fargen Twf yn cael ei neilltuo ar gyfer y prosiect cyfalaf cymeradwy ac yn ddarostyngedig i'r trefniadau monitro ac adrodd safonol.
Bydd y prosiect yn creu cyrchfan ymwelwyr flaenllaw ar gyfer Canolbarth Cymru, gan adeiladu ar asedau naturiol, diwylliannol ac etifeddol yr ardal. Mae'r gwelliannau arfaethedig yn cynnwys cyfleusterau ymwelwyr estynedig i fynd i'r afael â'r galw ar adegau prysur, gofod arddangos newydd a 'planetariwm', ardaloedd caffi a golygfeydd gwell, gwell hygyrchedd, ac isadeiledd carbon isel megis pwyntiau gwefru cerbydau trydan.
Mae'r prosiect yn anelu at greu cyfleoedd twristiaeth drwy'r flwyddyn, cynyddu gwariant ymwelwyr, cefnogi swyddi a phrentisiaethau, a chryfhau economi'r rhanbarth, tra hefyd yn cefnogi taith Dŵr Cymru tuag at sero net.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, a'r Cynghorydd Jake Berriman, Arweinydd Cyngor Sir Powys, Cyd-Gadeiryddion Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru: "Rydym yn falch o weld Prosiect Llynnoedd Cwm Elan yn symud ymlaen i'w gyflawni. Mae'r buddsoddiad hwn yn adlewyrchu ein huchelgais ar y cyd i ddatgloi potensial Canolbarth Cymru—gan gefnogi twristiaeth gynaliadwy, creu swyddi ac arddangos cryfderau unigryw'r rhanbarth."
Dywedodd Kit Wilson, Prif Swyddog Cwsmeriaid, Dŵr Cymru: "Mae'r buddsoddiad hwn yn garreg filltir bwysig i Gwm Elan, Canolbarth Cymru a Dŵr Cymru. Drwy ehangu cyfleusterau, creu mannau addysgol a chymunedol newydd, gwella hygyrchedd a gwella profiad cyffredinol ymwelwyr, bydd y prosiect yn helpu i sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol barhau i fwynhau a dysgu o'r amgylchedd unigryw hwn. Bydd hefyd yn rhoi hwb gwerthfawr i'r economi leol, gan gefnogi twristiaeth gynaliadwy a thwf, tra'n diogelu a dathlu un o dirweddau mwyaf eiconig Cymru."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price AS: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ffyniant economaidd ym mhob rhan o Gymru, ac i greu swyddi cynaliadwy o safon. Mae £55 miliwn o gymorth wedi'i ddarparu gan Lywodraeth flaenorol Cymru i Fargen Twf Canolbarth Cymru. Fel llywodraeth sydd newydd ei hethol, byddwn yn gweithio i sicrhau bod y buddsoddiad hwn yn cyflawni canlyniadau pendant i'r rhanbarth."
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Anna McMorrin AS: "Mae cefnogi twf economaidd ym mhob rhan o Gymru yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth y DU. Mae'r buddsoddiad hwn ym mhrosiect Llynnoedd Cwm Elan yn darparu profiad llawer gwell i ymwelwyr, gan roi hwb i fusnesau twristiaeth a chreu swyddi a chyfleoedd newydd i bobl leol."
Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru, sydd wedi'i gosod o fewn y weledigaeth ehangach ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru, yn fuddsoddiad hirdymor sy'n darparu cyllid cyfalaf i gefnogi seilwaith economaidd o bwys rhanbarthol sy'n denu buddsoddiad sector preifat ac yn ysgogi twf. Gyda chefnogaeth ymrwymiad cyfun o £110 miliwn gan Lywodraethau'r DU a Chymru i ysgogi buddsoddiad cyhoeddus a phreifat pellach, nod y Fargen Twf yw creu swyddi hirdymor a chynyddu cynhyrchiant, gan chwarae rhan allweddol wrth ysgogi adferiad a thwf economaidd ledled y rhanbarth.
Mae Dŵr Cymru yn parhau i ddarparu profiad ymwelwyr o safon uchel yng Nghwm Elan, gyda'r ganolfan ymwelwyr bresennol yn cynnig caffi, siop anrhegion, maes chwarae antur a chanolfan feiciau. Mae llogi beiciau ar gael bob dydd, gan ei gwneud yn hawdd archwilio'r ystâd sy'n ymestyn dros 72 milltir sgwâr o harddwch. Yn ystod gwyliau'r haf, gall ymwelwyr fwynhau diwrnodau agored y tu ôl i'r llenni ar y cronfeydd dŵr, ynghyd â rhaglen o lwybrau natur a gweithgareddau crefft cyfeillgar i deuluoedd.
Darganfyddwch fwy yma: https://elan-valley.co.uk/
Dilynwch Tyfu Canolbarth Cymru am ddiweddariadau pellach neu cofrestrwch i dderbyn y cylchlythyr misol: https://www.tyfucanolbarth.cymru/Cylchlythyron
LLUN: Canolfan ymwelwyr Cwm Elan.
