Toglo gwelededd dewislen symudol

Athrawes o Bowys yn rhannu angerdd am y proffesiwn yn nigwyddiad y Senedd

Teaching Wales Ambassadors, at the Celebrating Wales’ Teachers event at the Senedd

3 Mehefin 2026

Teaching Wales Ambassadors, at the Celebrating Wales’ Teachers event at the Senedd
 Mae athrawes o Bowys wedi siarad mewn digwyddiad gan Lywodraeth Cymru yn dathlu addysgwyr, gan rannu ei thaith i addysgu a'r effaith y gall y proffesiwn ei chael ar bobl ifanc.

Bu Albane Montgomery, athrawes Ffiseg a Ffrangeg yn Ysgol Llanfyllin a Llysgennad Addysgu Cymru, yn annerch y digwyddiad Dathlu Athrawon Cymru yn y Senedd ym mis Mawrth.

Yn ystod ei haraith, bu Albane yn sôn am sut y cafodd ei galwedigaeth yn annisgwyl wrth weithio fel athrawes gyflenwi yn Sweden yn ystod blwyddyn i ffwrdd.

"Sylweddolais yn gyflym fy mod i'n gweld y gwaith yn hynod o werth chweil," meddai. "Yr hyn sy'n dal i ddenu fi at addysgu yw'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud i bobl ifanc a sut mae'n siapio eu hyder a'u potensial."

Ers hyfforddi ym Mhrifysgol Rhydychen, mae hi wedi dewis adeiladu ei gyrfa yng Nghymru, gan dynnu sylw at fanteision ei chwricwlwm a'i ffocws ar ddatblygu dysgwyr cyflawn.

Siaradodd Albane hefyd am yr hyn y mae'n ei hennill o addysgu, gan gynnwys helpu disgyblion i oresgyn heriau a llwyddo.

"D'oes dim byd tebyg i weld disgybl yn dod i ddeall rhywbeth y maen nhw wedi cael trafferth ag ef - nid oes dim byd i gymharu â hyn."

Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys: "Mae Albane yn llysgennad gwych i Bowys ac i'r proffesiwn addysgu. Mae ei hangerdd a'i hymrwymiad yn dangos y gwahaniaeth enfawr y mae athrawon yn ei wneud i fywydau pobl ifanc bob dydd.

"Ar adeg pan rydyn ni'n wynebu heriau wrth recriwtio athrawon, mae ei stori yn ein hatgoffa o ba mor werth chweil ac effeithiol y gall yr yrfa hon fod."

Mae'r cyngor yn parhau i annog pobl i ystyried addysgu fel gyrfa, gan dynnu sylw at y rôl bwysig y mae'n ei chwarae wrth gefnogi cymunedau a llunio cenedlaethau'r dyfodol.

I wylio Albane yn siarad yn nigwyddiad Dathlu Athrawon Cymru, chwiliwch Dathlu Athrawon Cymru - Uchafbwyntiau ar YouTube.

Llun: Albane (chwith) a Llysgenhadon eraill Addysgu Cymru, yn nigwyddiad Dathlu Athrawon Cymru yn y Senedd ym mis Mawrth

Rhannwch y dudalen hon