Toglo gwelededd dewislen symudol

Is-etholiadau Cyngor Sir Powys

Image of a ballot box and black background

3 Mehefin 2026

Image of a ballot box and black background
Cynhelir tri is-etholiad y cyngor sir ym Mhowys ddydd Iau 2 Gorffennaf 2026.

Bydd yr is-etholiadau yn cael eu cynnal yn y wardiau canlynol:

  • Glantwymyn
  • Llanllŷr gyda Nantmel
  • Yscir gyda Honddu Isaf a Llanddew

Mae'r swyddi gwag hyn wedi codi yn dilyn ethol y cyn-gynghorwyr Elwyn Vaughan, Claire Johnson‑Wood ac Iain McIntosh i'r Senedd yn gynharach y mis hwn.

Sefyll fel ymgeisydd

Mae'r hysbysiad o etholiad bellach wedi'i gyhoeddi. Rhaid i unrhyw un sy'n dymuno sefyll fel ymgeisydd gyflwyno eu papurau enwebu i'r Swyddog Canlyniadau erbyn 4pm, dydd Gwener 5 Mehefin 2026

Gwybodaeth am bleidleisio

Os bydd yr etholiadau'n cael eu herio, bydd y bleidlais yn cael ei gynnal ddydd Iau 2 Gorffennaf 2026.

Cofrestru i bleidleisio

Rhaid i breswylwyr fod wedi'u cofrestru erbyn dydd Mawrth 16 Mehefin 2026.Cofrestrwch ar-lein: https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio

Pleidleisio drwy'r post

Rhaid derbyn ceisiadau am bleidleisiau drwy'r post, neu newidiadau i'r trefniadau presennol, erbyn 5pm, dydd Mercher 17 Mehefin 2026.Anfonwch at: Swyddog Cofrestru Etholiadol, Neuadd y Sir, Llandrindod. LD1 5LG.

Pleidleisio drwy ddirprwy

Rhaid derbyn ceisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy erbyn 5pm, dydd Mercher 24 Mehefin 2026.Anfonwch at: Swyddog Cofrestru Etholiadol, Neuadd y Sir, Llandrindod. LD1 5LG.

Gwybodaeth bellach

Am ragor o fanylion, ewch i: https://cy.powys.gov.uk/article/5573/Etholiadau-a-phleidleisio  a dewiswch "Gwybodaeth am etholiadau sydd ar y gorwel

Rhannwch y dudalen hon