Toglo gwelededd dewislen symudol

Adeiladu Diwylliant Gwell: Dweud eich dweud!

An audience in a theatre venue looking at the stage

4 Mehefin 2026

An audience in a theatre venue looking at the stage
Mae partneriaeth uchelgeisiol newydd rhwng cynghorau Powys, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn gwahodd y cyhoedd i helpu i lunio gweledigaeth ddiwylliannol gyffredin ar gyfer y rhanbarth.

Dan arweiniad Cyngor Sir Powys, mae Partneriaeth Diwylliant Strategol Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dod â'r pedwar awdurdod ynghyd am y tro cyntaf i ddatblygu cynllun hirdymor ar gyfer diwylliant ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae'r prosiect wedi'i seilio ar Flaenoriaethau Diwylliant Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2025, a oedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd diwylliant wrth ddod â chymunedau ynghyd, dathlu Cymru fel cenedl ddiwylliant a chreu cyfleoedd newydd.

Wrth wraidd y prosiect mae ymrwymiad i wrando. Mae trigolion, cymunedau, pobl greadigol a sefydliadau yn cael eu hannog i rannu eu barn er mwyn sicrhau bod y weledigaeth yn adlewyrchu anghenion a dyheadau pobl leol ar draws un o ranbarthau mwyaf amrywiol a gwledig Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Raiff Devlin, Aelod Cabinet dros Gwsmeriaid, Gwasanaethau Digidol a'r Gymuned: "Mae diwylliant yn chwarae rhan bwysig ym mywyd ein cymunedau, gan helpu i gryfhau hunaniaeth leol, cefnogi lles a chreu cyfleoedd. Mae hwn yn gyfle go iawn i bobl ledled Powys helpu i lunio dyfodol diwylliant ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru, felly byddwn yn annog pawb yn gryf i gymryd ychydig funudau i rannu eu barn."

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: "Mae'r bartneriaeth hon yn gyfle cyffrous i weithio gyda'n gilydd ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru i ddatblygu gweledigaeth gyffredin sy'n adlewyrchu'r diwylliant cyfoethog rydyn ni'n ei rannu. Byddwn i'n annog trigolion, grwpiau cymunedol a phobl greadigol i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a helpu i lunio dyfodol diwylliant yn ein rhanbarth."

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion â chyfrifoldeb dros Ddiwylliant: "Mae'n diwylliant yn perthyn i ni, yn helpu i'n diffinio, ac yn rhan annatod o'n cymunedau - yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol a rhyngwladol. Gall ymwneud diwylliannol ddyfnhau mwynhad o fywyd - boed e'n fynychu te yn y neuadd leol, ymweld ag oriel gelf rhyngwladol, mwynhau sioe yn y theatr neu godi llyfr yn y llyfrgell. Mae'r celfyddydau, ein llenyddiaeth, ein treftadaeth a'n hieithoedd, ein hymwneud diwylliannol â'n gilydd - i gyd yn cyfoethogi'n bywydau. Dyma gyfle gwych i bobl Ceredigion a thu hwnt gael dweud eu dweud ar ddiwylliant yn y dyfodol. Rydym eisiau clywed cymaint o leisiau â phosib."

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion: "Mae Canolbarth a Gorllewin Cymru yn llawn creadigrwydd, treftadaeth ac ysbryd cymunedol, ac mae'r bartneriaeth gyffrous hon yn gyfle gwych i ddathlu ac ategu hyn gyda'n gilydd. Trwy weithio ar draws y pedair sir, gallwn fod yn fwy uchelgeisiol, yn fwy arloesol a chreu gweledigaeth ddiwylliannol sy'n arddangos popeth sydd gan ein rhanbarth i'w gynnig.

 "Rydym eisiau clywed gan gymaint o bobl â phosibl - trigolion, grwpiau cymunedol, artistiaid a sefydliadau - fel y gallwn, gyda'n gilydd, greu dyfodol diwylliannol sy'n gynhwysol, uchelgeisiol ac sydd wedi'i wreiddio yn yr hyn sy'n bwysicaf i'n cymunedau. Felly, dewch i un o'n sesiynau yn Sir Benfro neu rhannwch eich barn drwy'r holiadur ar-lein."

Mae Gweledigaeth Ddiwylliannol ranbarthol a phedwar Cynllun Blaenoriaeth Ddiwylliannol lleol i fod i gael eu cwblhau erbyn mis Hydref 2026, gan gefnogi cydweithio a buddsoddi hirdymor mewn diwylliant ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf.

Dweud eich dweud

Mae trigolion yn cael eu gwahodd i rannu eu barn ar yr hyn y mae diwylliant yn ei olygu iddyn nhw fel rhan o gyfres o sesiynau gweithdy galw heibio ac ar-lein ym mis Mehefin eleni.

Wedi'u cyflwyno drwy brosiect Cwlwm (Golwg Creadigol), bydd y sesiynau'n dod â phobl ynghyd i archwilio gwahanol ddehongliadau o ddiwylliant, o'r celfyddydau a'r theatr i dreftadaeth leol, llyfrgelloedd a digwyddiadau cymunedol, er mwyn helpu i lunio gweledigaeth newydd ar gyfer diwylliant ar draws canolbarth a gorllewin Cymru. Mae pob sesiwn ar agor i bawb, gyda dewisiadau iaith Cymraeg a Saesneg ar gael, ar yr amseroedd a lleoliadau canlynol:

4 June: 

  • Sesiwn Galw Heibio (11am-5pm)  Llyfrgell Aberaeron 
  • Evening Workshop (7-8.30pm) Theatr Felinfach

8 June:

  • Sesiwn Galw Heibio (11am-5pm) Llyfrgell Llanelli 
  • Evening Workshop (7-8.30pm) Llyfrgell Llanelli 

11 June:

  • Sesiwn Galw Heibio (11.00am - 1.00pm / 2.00 - 4.00pm) Neuadd y Dref Abergwaun 
  • Evening Workshop (7-8.30pm) Neuadd y Dref Abergwaun 

15 June:

  • Sesiwn Galw Heibio (11am-5pm) Llyfrgell Y Drenewydd 
  • Evening Workshop (7-8.30pm) Llyfrgell Y Drenewydd 

22 June:

  • Sesiwn Galw Heibio (11am-5pm) Llyfrgell Doc Penfro 
  • Evening Workshop (7-8.30pm) Llyfrgell Doc Penfro 

24 June:

  • Sesiwn Galw Heibio (11am-5pm) Y Gaer, Aberhonddu 
  • Evening Workshop (7-8.30pm) Y Gaer, Aberhonddu 

29 June: 

  • Sesiwn Galw Heibio (11am-5pm) Llyfrgell Caerfyrddin 
  • Evening Workshop (7-8.30pm) Llyfrgell Caerfyrddin 

Mae pob sesiwn ar agor i bawb, gyda dewisiadau iaith Cymraeg a Saesneg ar gael.
 

Fel arall, gallwch rannu eich barn drwy'r holiadur ar-lein: https://forms.gle/2HBhWt9kwA5bHVHi9 

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw: Dydd Mawrth 30 Mehefin 2026

Rhannwch y dudalen hon