Toglo gwelededd dewislen symudol

Yswiriant cynnwys cartref i Denantiaid

Fel eich darparwr tai, mae Cyngor Sir Powys yn yswirio'r adeilad ac unrhyw beth rydyn ni'n ei ddarparu. Ond, chi sy'n gyfrifol am yswirio eich eiddo eich hun (cynnwys eich cartref), pethau fel dodrefn, carpedi ac eitemau trydanol.

Pam allech chi fod eisiau yswiriant cynnwys?

Os bydd rhywbeth annisgwyl yn digwydd (er enghraifft dŵr yn gollwng, tân, lladrad neu ddifrod damweiniol), mae prynu eitemau newydd yn gallu bod yn ddrud. Gall yswiriant cynnwys eich helpu i dalu am eitemau newydd.

Rydym ni'n gallu cael gafael ar yswiriant cynnwys cartref sydd wedi'i ddylunio i denantiaid. Darperir yr yswiriant hwn gan Ecclesiastical Insurance Office Plc (Ecclesiastical), ac mae'n cael ei alw'n - Cynnwys Cartref Syml.

Sut ydw i'n cael dyfynbris?

Ewch i  Yswiriant Cynnwys Cartref i Denantiaid i gael rhagor o wybodaeth am y polisi yswiriant hwn ac i gael dyfynbris ar-lein

Os byddai'n well gennych chi siarad â rhywun, gallwch ffonio 0333 038 4156.

Mae cost yswiriant yn dibynnu ar bethau fel eich cod post, eich amgylchiadau a lefel yr yswiriant a ddewiswch.

Cofiwch fod hyn yn ddewisol, a gallwch ddewis defnyddio darparwr gwahanol, neu beidio â chael yswiriant cynnwys o gwbl.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Yswiriant Cynnwys Cartref i Denantiaid

Darparwr Newydd

Os oeddech chi wedi trefnu'r yswiriant hwn cyn 01/06/2026, y Royal and Sun Alliance Limited (RSA) fyddai wedi ei ddarparu i chi.

O'r dyddiad hwn ymlaen, bydd pob polisi yn cael ei adnewyddu gydag Ecclesiastical. Eu partner URIS sy'n gweinyddu'r yswiriant, felly bydd URIS yn rhoi dyfynbris i chi, yn cymryd eich taliadau ac yn eich cefnogi chi os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes angen i chi wneud hawliad.

Rhannwch y dudalen hon