Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cwynion am Gynghorwyr

Dylid anfon cwynion yn erbyn Cynghorwyr Sir at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn:

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203
Gwefan: www.ombudsman-wales.org.uk/

 

Sut i gael cyngor

Nid yw'r Cyngor Sir yn archwilio cwynion oddi wrth y cyhoedd am Gynghorwyr Sir. Gellir gofyn am gyngor o ran eich cwyn trwy gysylltu â'r Swyddog Monitro.

Teleffon: 01597 826746

Swyddog Gwaith Monitro
Neuadd y Sir
Spa Road East
Llandrindod
Powys
LD1 5LG

 

Yr hyn y gallwch gwyno amdano

Mae pob Cynghorydd wedi cael ei ymrwymo gan God Ymddygiad y Cyngor. Dim ond cwynion lle credir fod Cynghorydd wedi torri'r cod ymddygiad hwn y dylid eu hanfon at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Beth yw'r Cod Ymddygiad?

Mae'r Cod yn nodi nifer o egwyddorion cyffredinol y mae'n rhaid i Gynghorwyr eu dilyn wrth gynnal dyletswyddau cyhoeddus ac mae'n cynnwys materion megis:-

  • safonau ymddygiad personol;
  • perthnasoedd gydag aelodau'r cyhoedd, swyddogion cyflogedig y cyngor a chynghorwyr eraill
  • gweithdrefnau i gofrestru a datgan buddiannau personol;
  • gweithdrefnau i ddelio gydag unrhyw gynigion o roddion neu letygarwch 

Fel rhan o'r fframwaith moesegol ar gyfer llywodraeth leol a nodir yn Neddf Llywodraeth Leol 2000, mae'n rhaid i bob Cynghorydd pan yr etholir hwy a chyn iddynt ddechrau ar y swydd arwyddo datganiad i gydymffurfio â Chod Ymddygiad y Cyngor.

Edrychwch ar y Cod Ymddygiad yma