Cwynion am Gynghorwyr
Dylid anfon cwynion yn erbyn Cynghorwyr Sir at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn:
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
Ffôn: 0300 790 0203
Gwefan: www.ombwdsmon.cymru
Sut i gael cyngor
Nid yw'r Cyngor Sir yn archwilio cwynion oddi wrth y cyhoedd am Gynghorwyr Sir. Gellir gofyn am gyngor o ran eich cwyn trwy gysylltu â'r Swyddog Monitro.
Teleffon: 01597 826746
Swyddog Gwaith MonitroNeuadd y Sir
Spa Road East
Llandrindod
Powys
LD1 5LG
Yr hyn y gallwch gwyno amdano
Mae pob Cynghorydd wedi cael ei ymrwymo gan God Ymddygiad y Cyngor. Dim ond cwynion lle credir fod Cynghorydd wedi torri'r cod ymddygiad hwn y dylid eu hanfon at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.
Beth yw'r Cod Ymddygiad?
Mae'r Cod yn nodi nifer o egwyddorion cyffredinol y mae'n rhaid i Gynghorwyr eu dilyn wrth gynnal dyletswyddau cyhoeddus ac mae'n cynnwys materion megis:-
- safonau ymddygiad personol;
- perthnasoedd gydag aelodau'r cyhoedd, swyddogion cyflogedig y cyngor a chynghorwyr eraill
- gweithdrefnau i gofrestru a datgan buddiannau personol;
- gweithdrefnau i ddelio gydag unrhyw gynigion o roddion neu letygarwch
Fel rhan o'r fframwaith moesegol ar gyfer llywodraeth leol a nodir yn Neddf Llywodraeth Leol 2000, mae'n rhaid i bob Cynghorydd pan yr etholir hwy a chyn iddynt ddechrau ar y swydd arwyddo datganiad i gydymffurfio â Chod Ymddygiad y Cyngor.
Edrychwch ar y Cod Ymddygiad yma