Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad at wybodaeth

Image of a man using sign language
24 Ionawr 2018 

Gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad at wybodaeth

Bydd trigolion Powys yn ei chael hi'n haws i gyfathrebu gyda'r cyngor sir o ganlyniad i welliannau mawr sy'n cefnogi mynediad at wybodaeth a chyngor ar-lein ar ei wefan. 

Image of a man using sign language
Bydd trigolion Powys yn ei chael hi'n haws i gyfathrebu gyda'r cyngor sir o ganlyniad i welliannau mawr sy'n cefnogi mynediad at wybodaeth a chyngor ar-lein ar ei wefan. 

Mae'r wefan, sydd eisoes yn darparu ystod eang o wybodaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg ynghyd â thaflenni i'w lawrlwytho a'u hargraffu, yn cynnig iaith arwyddion ac ap newydd i'w gwneud yn hawsach gael mynediad at wybodaeth.

Y ddau ychwanegiad arloesol yw ffilmiau Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a Browsealoud, sef ap sy'n helpu pobl i wrando ar wybodaeth. 

Dywedodd y Cynghorydd Stephen Hayes, Aelod Cabinet ar faterion Gwasanaethau Oedolion: "Ein prif nod oedd sicrhau bod pobl fyddar a phobl fyddar a dall yn cael yr un cyfleoedd â phawb arall, a'r un mynediad at addysg, cyflogaeth a gwasanaethau.  Mae Iaith Arwyddion Prydain yn iaith ystumiau gweledol, gyda'i gramadeg ac egwyddorion ei hun, sy'n hollol wahanol i strwythur gramadegol Cymraeg a Saesneg.

"Mae'r ychwanegiad o Iaith Arwyddion Prydain yn newydd iawn ar gyfer y cyngor, a'n nod yw adeiladu ar y naw tudalen sydd wedi cael eu dehongli ar ddechrau gwanwyn 2018. 

"Yr ail ychwanegiad i wefan y cyngor oedd Browsealoud.  Mae'r ap yn ychwanegu iaith, darllen, a chyfieithu i wefan y cyngor sy'n cefnogi pobl sydd â Dyslecsia, nam ar y golwg ysgafn a phobl sy'n cael anhawster i ddarllen.

Mae'r Cynghorydd Jackie Charlton, aelod ar gyfer Llangatwg yn hollol fyddar ac mae'n awyddus iawn i dynnu sylw at yr angen i ddeall ac i roi cymorth i bobl sy'n defnyddio iaith arwyddion fel eu hiaith gyntaf.

"Mae hwn yn brosiect da dros ben.  Mae'n helpu'r rheiny sy'n aml yn cael eu gadael ar ôl wrth i wybodaeth gael ei rhannu am wasanaethau a ddylai fod yn darparu mwy i bawb.  Mae Powys yn gweithio i wneud yn si?r y gellir gwneud addasiadau rhesymol ymhle bynnag y maen nhw'n darparu gwasanaeth yn ogystal â chymorth ar gyfer gweithwyr newydd a gweithwyr presennol hefyd", dywedodd.

"Rwy'n gobeithio y bydd yr awdurdodau eraill yng Nghymru a Chynulliad Cymru yn cymryd rhan yn y prosiect arloesol hwn.  Ar hyn o bryd, Powys yw'r unig rai sy'n darparu'r gwasanaeth hwn yng Nghymru. Gallwn ni wneud rhagor fel cyngor, ac edrychwn ymlaen at weld mentrau eraill hefyd."