Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Mynediad i gerbydau at gefn gwlad

Mae defnyddio cerbydau modur yng nghefn gwlad yn fater cymhleth sy'n creu teimladau cryfion. Mae mwy a mwy o bobl yn defnyddio cerbydau modur megis cerbydau 4x4 neu feiciau modur ar gyfer hamdden.

 

Darpariaeth

Mae 'na dri modd o ddefnyddio cerbydau oddi ar y ffyrdd

  • Cytundebau preifat gyda thirfeddianwyr (datblygiad a ganiateir - rheol 14/28 diwrnod)
  • Safleoedd preifat oddi ar y ffordd ("talu a chwarae")
  • Priffyrdd cyhoeddus

Gall cerbydau modur MPV ddefnyddio 'Cilffyrdd sy'n Agored i bob traffig' (BOAT). Dyma'r unig gategori o briffordd sy'n darparu hawliau tramwy terfynol at ddefnydd MPV - mae oddeutu 220 cilomedr o'r rhain ym Mhowys.  I ddarganfod pa gilffyrdd neu lwybrau allwch chi yrru unrhyw MPV arnyn nhw, bydd angen i chi edrych ar y Map Diffiniol a'r Datganiad yn Swyddfeydd y Cyngor yn Llandrindod. Mae mapiau Explorer yr Arolwg Ordnans (OS) yn dangos lleoliadau'r cilffyrdd, ynghyd â hawliau tramwy cyhoeddus eraill, ond dydyn nhw ddim yn ddiffiniol, ac mae'n bosibl bod camgymeriadau arnyn nhw. Lle da arall i fynd i chwilio yw gwefan trailwise sy'n dangos lle mae'r cilffyrdd a hefyd a yw'r llwybr yn destun Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO) ai peidio.

 

Addysg

Mae camsyniadau am y defnydd o gerbydau modur, ac mae'n bwysig fod y cyhoedd yn deall y sefyllfa gyfreithiol, a'r hyn sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r defnydd anghyfreithlon o gerbydau modur.

Mae Grwp Llywio Moduro oddi ar y Ffyrdd Cymru (WORMS) yn helpu asiantaethau i gydweithio i roi canllawiau cyson ar draws Cymru.

Gellir cael ychydig o'r wybodaeth orau oddi wrth fudiad elusennol o'r enw Treadlightly!  Sefydlwyd y mudiad newydd hwn a'i gefnogi gan y Green Lanes Assocation (GLASS), Countryside Recreation Access Group (CRAG) a'r Trail Riders Fellowship (TRF).

 

Gorfodaeth

Mae'n anodd gorfodi'r gyfraith ar foduro oddi ar y ffyrdd mewn ardal wledig mor fawr â chanolbarth Cymru, a rhaid i'r asiantaethau priodol weithio gyda'i gilydd.

Yn ddiweddar, sefydlwyd Fforwm Moduro Oddi ar y Ffyrdd Canolbarth Cymru (MWORF) sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Heddlu Dyfed Powys, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cynghorau Sir Powys a Cheredigion, Cyfoeth Naturiol Cymru, GLASS, CRAG a'r TRF. Cadeiriwyd y Grŵp gan Heddlu Dyfed Powys. 

Rhaid i ni ganolbwyntio ein hadnoddau ar ardaloedd lle'r ydym yn gwybod am broblemau cyson gyda defnydd anghyfreithlon o gerbydau amlbwrpas (MPV), ac rydym yn dysgu am hyn trwy gwynion oddi wrth y cyhoedd. Pan fyddwn yn gwybod fod problem, caiff Uned Moduro Oddi ar y Ffyrdd Cyngor Sir Powys ei rhoi ar waith.

Mae'r fforwm MWORF hefyd yn gweithio gyda'r Awdurdod Priffyrdd i wneud penderfyniadau ar waith gorfodaeth ar briffyrdd nad oes hawliau MPV diffiniol iddynt ar hyn o bryd.

Daw'r troseddau o dan adran 34 Deddf Traffig y Ffyrdd 1988 yn bennaf am yrru ar unrhyw lwybrau troed, llwybrau ceffyl neu gilffyrdd cyfyngedig. Mae'n drosedd hefyd i yrru ar dir preifat heb awdurdod cyfreithlon. Mater i'r Heddlu yw hyn yn llwyr, ond mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â'r Heddlu.

 

Report illegal Off-roading here Report a concern about off-roading

Fel arall, ffoniwch yr Heddlu ar 101 am ddigwyddiadau byw neu am ddigwyddiadau llai brys anfonwch e-bost at contactcentre@dyfed-powys.pnn.police.uk

 

Cysylltiadau

Dilynwch ni ar:

Rhowch sylwadau am dudalen yma