Cofrestru adeilad ar gyfer seremonïau sifil
Byddwch angen trwydded os ydych eisiau cynnal seremonïau priodas neu bartneriaeth sifil ar eich eiddo. Unwaith mae trwydded wedi'i chaniatáu, mae'n ddilys am dair blynedd.
Sut i wneud cais
Lawr lwythwch y
o'r dudalen hon.Wrth anfon y ffurflen yn ôl, dylech gynnwys:
- eich tâl (na ellir ei ad-dalu)
- tri chopi o gynlluniau'r eiddo gyda'r ystafelloedd wedi'u hamlygu
- Asesiad Risg Tân diweddar
Beth sy'n digwydd nesaf?
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich dogfennau, bydd hysbysiad swyddogol yn cael ei roi yn y wasg leol yn dweud fod cais am drwydded. Yna, bydd gan y cyhoedd 21 diwrnod i wrthwynebu rhoi trwydded.
Bydd eich Asesiad Risg Tân yn cael ei anfon i Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru i gael eu sylwadau. Byddwn yn archwilio'r eiddo i sicrhau ei fod yn addas.
Os bydd eich cais yn mynd trwy'r holl gamau hyn, bydd y drwydded yn cael ei chyhoeddi.
Os na fyddwch wedi clywed oddi wrthym o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni.
Os nad ydych yn cytuno gyda'n penderfyniad, cysylltwch â Rheolwr y Gwasanaeth Cofrestru
Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon, bydd y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn rhoi cyngor i chi.
Cyswllt
Rhowch sylwadau am dudalen yma