Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hawliau Tramwy: Ffermio

Mae nifer o hawliau tramwy yn croesi tir amaethyddol, a gall gweithgareddau ffermio gael effaith ar y rhain.

Teirw ac anifeiliaid peryglus

Mae'n drosedd i gadw unrhyw darw dros 10 mis oed ac sydd ar ei ben ei hun, neu unrhyw darw o frid llaeth cydnabyddiedig (hyd yn oed os yw gyda gwartheg/heffrod) ar dir lle mae hawl tramwy cyhoeddus yn ei groesi.

Gellir cadw teirw ar y tir sy'n iau na 10 mis oed, neu sydd o frid cig eidion cydnabyddedig sydd gyda gwartheg/heffrod.

Os bydd unrhyw anifail, y mae ei geidwad yn gwybod ei fod yn beryglus, yn peri anaf i aelod o'r cyhoedd sy'n defnyddio hawl tramwy, gallai'r sawl a gafodd ei anafu ddwyn achos yn erbyn y perchennog/deilydd.

Os ydych yn credu bod rhywun wedi torri'r rheol hon, rhowch wybod i ni. 

Cnydau sy'n tyfu ar hawliau tramwy cyhoeddus

Lle bydd cnwd (ac eithrio gwair) wedi'i blannu ar dir lle bydd hawl tramwy cyhoeddus yn croesi, mae gan y deilydd ddyletswydd i sicrhau fod y lled isaf a ganiateir (1m i lwybr troed a 2m i lwybr ceffyl) wedi'i adael ar hyd llinell yr hawl tramwy. Mae gan y deilydd hefyd ddyletswydd i atal y cnwd rhag ymestyn o fewn y lled hwnnw trwy gydol y tymor tyfu. Mae methu â chyflawni hyn yn drosedd. 

Aredig Ffordd Tramwy Cyhoeddus

O dan rai amgylchiadau, bydd deiliaid tir yn cael aredig hawliau tramwy, os nad yw'n rhesymol o gyfleus i'w hosgoi. Mae hyn yn berthnasol ar gyfer llwybrau cyhoeddus sy'n croesi caeau a llwybrau ceffyl. Ni ddylid aredig llwybrau troed a llwybrau ceffyl sy'n dilyn ymyl caeau.  Ni ddylid aredig 'cilffyrdd cyfyngedig' a 'chilffyrdd sy'n agored i bob traffig', lle bynnag fo'u lleoliad - ymyl cae neu groesi caeau.

Yr isafswm lled y dylid ei adael heb ei aredig ar gyfer llwybrau ymyl caeau yw:-

  • Llwybr troed        1.5 metr
  • Llwybr Ceffyl        3 metr
  • Cilffordd Cyfyngedig        3 metr
  • Cilffordd        3 metr

 Lleiafswm y lled ar gyfer llwybrau sy'n croesi caeau:

 

  • Llwybr troed        1 metr
  • Llwybr ceffyl        2 metr
  • Cilffordd Cyfyngedig        3 metr
  • Cilffordd        3 metr

Os bydd llwybr troed neu lwybr ceffyl sy'n croesi cae yn cael ei aredig, mae'n rhaid ei adfer o fewn y terfyn amser cyfreithiol neu fel arall bydd y ffermwr wedi troseddu.  Mae ei adfer yn golygu nodi'r llwybr ar y ddaear a gwneud yn siwr bod wyneb y llwybr yn eithaf cyfleus i'w ddefnyddio gan y cyhoedd.  Y terfyn amser cyfreithiol yw 14 diwrnod ar gyfer digwyddiad cyntaf o'r cylch cnwd, a 24 awr ar gyfer unrhyw waith arall, fel llyfnu a drilio.

 

Gorfodi protocol aredig a chnydau

Nid yw aredig a thyfu cnydau yn effeithio ar hawliau tramwy yn aml ym Mhowys, oherwydd defnyddir y rhan fwyaf o'r tir amaethyddol ar gyfer magu da byw.  Fodd bynnag, pan mae'n digwydd, byddwn yn ymdrin â phethau fel a ganlyn: 

Am drosedd cyntaf, byddwn yn esbonio'r gyfraith i'r troseddwr ac yn cynnal cyfweliad anffurfiol, a fydd yn cael ei gofnodi'n ysgrifenedig. Ar ddiwedd y cyfweliad, bydd y troseddwr yn cael copi o'r cyfweliad a ffurflen yn rhoi 7 diwrnod i ailsefydlu'r llwybr.  Os na fydd y llwybr wedi'i adfer i safon derbyniol, byddwn yn rhoi rhybudd cyfreithiol ffurfiol i'r troseddwr ac yn mynnu ei fod yn ail-sefydlu'r llwybr o fewn 7 diwrnod arall. Os bydd y llwybr yn parhau heb ei ail-sefydlu, bydd y Cyngor yn gwneud y gwaith angenrheidiol trwy gontractwyr ac yn adfer y gost gan y troseddwr.

Os fydd deilydd tir wedi ymateb i'r cais yn y cyfweliad anffurfiol cyntaf, ond yn troseddu eto mewn blynyddoedd diweddarach, byddwn yn cyflwyno rhybudd cyfreithiol ar unwaith yn mynnu ail-sefydlu'r llwybr o fewn 7 diwrnod.

Os bydd deilydd yn ail-droseddu ar ôl cael rhybudd cyfreithiol ffurfiol, byddwn yn cyflwyno rhybudd cyfreithiol ac yn ystyried erlyn y troseddwr. Bydd pawb sy'n derbyn rhybuddion gorfodaeth yn ystod blwyddyn yn derbyn llythyr yn nodi'r gyfraith ac yn eu hatgoffa am eu rhwymedigaethau cyn i'r tymor cnydau nesaf ddechrau.

Cysylltiadau

Dilynwch ni ar:

Rhowch sylwadau am dudalen yma