Llwybrau Troed, Llwybrau Ceffyl a Hawliau Tramwy Cyhoeddus Eraill
Mae hawliau tramwy cyhoeddus ar agor i bawb. Gall y rhain fod yn ffyrdd, llwybrau neu draciau sy'n mynd drwy drefi, cefn gwlad a dros eiddo preifat. Mae gan Bowys dros 12,000 o hawliau tramwy cyhoeddus. Defnyddir nifer o'r rhain ar gyfer hamdden - yn arbennig cerdded, seiclo, marchogaeth a gyrru 'oddi ar y ffordd'.
Llwybrau
I'w defnyddio gan gerddwyr yn unig. Gallwch fynd â choets ar gyfer plentyn gyda chi. Gallwch fynd â chi, ond rhaid ei gadw o dan reolaeth.
Sylwer - nid yw llwybrau troed yr un fath â 'throedffyrdd' sy'n air arall ar gyfer palmentydd. Os oes gennych broblem gyda throedffordd ewch i'n tudalenrhoi gwybod am broblem ar ffordd, palmant neu bont.
Llwybrau Ceffyl
Gall cerddwyr, seiclwyr a marchogion ddefnyddio llwybrau ceffyl. Mae'n bosibl y bydd hawliau ar gyfer symud stoc, megis defaid a gwartheg.
Os oes angen gwybodaeth gywir ar y llwybr , yna gallwch archwilio'r Map Diffiniol. Mae hwn ar gael i'w weld ar y ffynhonnau Gwalia, Llandrindod.
Cilffyrdd Cyfyngedig
Categori newydd o hawl tramwy, a elwyd cyn hyn yn Ffordd a Ddefnyddir fel Llwybr Cyhoeddus (RUPP). Mae'r hawliau yr un peth ag ar gyfer llwybrau ceffyl, gyda hawl ychwanegol i ddefnyddio cartiau a cherbydau a dynnir gan geffylau. Ni allwch yrru cerbydau modur ar gilffyrdd cyfyngedig.
Cilffyrdd sy'n agored i holl draffig (BOAT)
Mae gan y rhain yr un hawliau â chilffyrdd cyfyngedig, ond gallwch hefyd yrru cerbydau modur.
Ymhle mae'r Hawliau Tramwy Cyhoeddus?
Mae mapiau 'Explorer' 1:25000 yr Arolwg Ordnans yn rhoi gwybodaeth gyffredinol ar hawliau tramwy cyhoeddus ond nid ydynt yn hollol gywir gan nad ydynt bob amser yn adlewyrchu newidiadau i'r rhwydwaith llwybrau.
Mae ein Map Rhyngweithiol yn dangos yr holl hawliau tramwy cyhoeddus trwy Bowys. Os ydych chi'n chwilio am wybodaeth gywir ar union linell a statws llwybr, yna dylech daro golwg ar y Map Diffiniol sy'n cael ei gadw gan y Cyngor.
Beth am hawliau preifat?
Nid ydym yn cadw cofnodion o hawliau mynediad preifat (hawlfreintiau). Os oes gennych unrhyw broblemau gyda hawliau preifat, dylech geisio cyngor cyfreithiol.