Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hawliau Tramwy: Rhwystrau

 

Led hawliau tramwy cyhoeddus

Nid oes rheol gyffredinol yn ymwneud â lled hawliau tramwy cyhoeddus.  Pan fyddwn yn penderfynu os bydd achos o lechfeddiannu (encroachment), byddwn yn edrych ar ddogfennau hanesyddol, y pellter rhwng ffiniau megis gwrychoedd neu ffensys neu dystiolaeth arall sy'n dangos lled arferol y llwybr.

Os nad oes gennym y dystiolaeth hon, byddwn yn gosod y lled resymol a fyddai'n ddigon i ddau ddefnyddiwr fedru croesi.  Gyda llwybr troed, byddai hyn yn golygu 2 fedr, ar gyfer llwybr ceffyl byddai angen 3 medr a 5 medr ar gyfer cilffordd.

Mae llechfeddiannu i led hawl tramwy cyhoeddus yn drosedd. 

 

Llechfeddiant

Rhwystro neu gulhau'r briffordd yn anghyfreithlon yw llechfeddiant.  Byddwn yn ymchwilio i bob honiad bod hyn wedi digwydd ar hawl tramwy cyhoeddus. 

Yn gyntaf, byddwn yn penderfynu os oes achos o lechfeddiannu ac os yw'n cael effaith ar yr hawl tramwy, neu y gallai wneud yn y dyfodol. Os ydym yn meddwl bod achos teilwng, ond nad yw'n cael effaith ar y llwybr na hawliau'r defnyddwyr, byddwn yn rhoi gwybod i'r sawl sy'n gyfrifol bod yr hyn y maen nhw wedi'i wneud yn anghyfreithlon ac y bydd unrhyw lechfeddiannu pellach yn golygu y bydd rhaid cael gwared ar yr holl lechfeddiannu.

Os byddwn yn meddwl bod yr achos yn cael effaith ar yr hawl tramwy ac ar hawliau'r defnyddwyr, byddwn yn cysylltu â'r sawl sy'n gyfrifol ac yn gofyn iddynt gael gwared ar y llechfeddiant.  Byddwn yn rhoi cyfnod rhesymol iddynt wneud hyn. Os na fyddant yn gwneud hynny, byddwn yn dechrau camau gorfodi.

Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, fel arfer bydd troseddwyr yn cael 7 diwrnod i gael gwared ar rwystr.  (Os yw'r rhwystr yn beryglus, byddwn yn cymryd camau uniongyrchol).  Bydd y rhybudd anffurfiol hwn yn cael ei gadarnhau'n ysgrifenedig.  Os nad yw'r troseddwr yn cydymffurfio, bydd rhybudd cyfreithiol ffurfiol yn cael ei roi yn gofyn i'r sawl sy'n gyfrifol symud y rhwystr o fewn cyfnod penodol.  Os na fydd y sawl sy'n gyfrifol wedi cael gwared â'r rhwystr, byddwn yn cael gwared ohono ac yn adfer y gost gan y troseddwr.  Byddwn hefyd yn ystyried erlyn os byddant yn ei aildroseddu.

 

Coed a changhennau sy'n cwympo ar draws hawliau tramwy cyhoeddus

Os bydd coeden neu gangen fawr yn cwympo ar draws hawl tramwy,  pherchennog y gangen neu goeden fydd yn gyfrifol am ei symud.  Cysylltwch â ni os byddwch yn gweld coeden neu gangen yn rhwystro hawl tramwy.

Byddwn yn cysylltu â pherchennog y goeden ac yn gofyn iddo symud y rhwystr o fewn amser rhesymol. Os na fydd y perchennog yn gwneud hyn, byddwn yn cael gwared ar y canghennau/coeden ac yn adfer y costau gan y perchennog.

Gweler ein tudalen am ffensys.

 

Cysylltiadau

Dilynwch ni ar:

Rhowch sylwadau am dudalen yma