Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hawliau Tramwy: Ffensys

Ffensys weiren bigog ar draws hawl tramwy cyhoeddus

Mae codi ffens weiren bigog, neu weiren bigog heb orchudd ar draws hawl tramwy cyhoeddus heb ffordd modd addas o groesi, yn drosedd.  Rhowch wybod i ni trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon.

Byddwn yn gofyn i berchennog y ffens ei symud neu os oes angen y ffens ar gyfer amaethyddiaeth, i greu ffordd ddiogel i'w chroesi ar linell y llwybr. (Bydd hyn yn golygu gwneud cais am ganiatad i osod camfa neu giât).  Os nad yw'r perchennog yn symud y ffens, byddwn yn cael gwared ar y weiren bigog lle bydd yn effeithio ar y llwybr.  Os bydd y perchennog yn parhau i osod ffensys, byddwn yn ystyried erlyn.

 

Weiren bigog wrth ymyl hawl tramwy cyhoeddus

Pan fydd ffens weiren bigog yn rhedeg ar hyd ochr hawl tramwy cyhoeddus, gall fod yn berygl a niwsans i'r cyhoedd.  Yn yr achosion hyn, byddwn yn gofyn i'r perchennog i wneud y ffens yn ddiogel.  Os byddant yn gwrthod neu'n methu gwneud hynny, byddwn yn cyflwyno rhybudd cyfreithiol yn mynnu fod y perchennog yn cael gwared ar y perygl o fewn amser penodol.

 

Ffensys trydan ar draws hawl tramwy cyhoeddus

Mae codi ffens drydan ar draws hawl tramwy cyhoeddus heb ddarparu modd addas o groesi, yn drosedd.  Rhowch wybod i ni trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon.

Byddwn yn gofyn i berchennog y ffens drydan ei symud neu os oes angen y ffens ar gyfer amaethyddiaeth, i greu ffordd ddiogel i'w chroesi ar linell y llwybr. (Bydd hyn yn golygu gwneud cais am ganiatad i osod camfa neu giât).  Os nad yw'r perchennog yn symud y ffens, byddwn yn cael gwared ar y ffens drydan lle bydd yn effeithio ar y llwybr.  Os bydd y perchennog yn parhau i osod ffensys, byddwn yn ystyried erlyn. 

 

Ffensys trydan wrth ochr hwal tramwy cyhoeddus

Pan fydd ffens drydan yn rhedeg ar hyd ochr hawl tramwy cyhoeddus, gall fod yn berygl i aelodau o'r cyhoedd.

Yn yr achosion hyn, byddwn yn gofyn i'r perchennog i wneud y ffens yn saff i'r cyhoedd sy'n defnyddio'r llwybr. Os bydd y perchennog yn gwrthod, byddwn yn cyflwyno rhybudd cyfreithiol yn mynnu fod y perchennog yn cael gwared ar y perygl o fewn amser penodol.  Os na fyddant yn cydymffurfio â'r rhybudd, byddwn yn cael gwared ar y ffens ac yn hawlio'r costau gan berchennog y ffens.

 

Rhaff ar draws hawl tramwy cyhoeddus

Mae'n drosedd i ymestyn rhaff neu rywbeth tebyg ar draws hawl tramwy cyhoeddus. Mewn rhai amgylchiadau, gellir cael caniatâd i ymestyn rhaff neu weiren dros dro ar draws llwybr troed cyhoeddus (ond nid unrhyw fath arall o hawl tramwy) i atal anifeiliaid fferm.  Gellir gwneud hyn, cyn belled â'i fod yn hawdd i'w weld a'i fod yn hawdd i'w symud a'i roi yn ôl gan ddefnyddwyr y llwybr.

Byddwn yn gofyn bod unrhyw raff na ddylai fod yno'n cael ei symud yn barhaol.  Os na chaiff hyn ei wneud, byddwn yn ei symud, ac yn ystyried erlyn.

Cysylltiadau

Dilynwch ni ar:

Rhowch sylwadau am dudalen yma