Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hawliau Tramwy: Cynnal a Chadw

 

Torri gwrychoedd a choed wrth ymyl hawliau tramwy cyhoeddus

Yn y mwyafrif o achosion, y perchennog tir sy'n gyfrifol am wneud yn siwr nad yw gwrychoedd a choed yn ymestyn dros hawl tramwy cyhoeddus gan achosi rhwystr.

Mae gennym yr hawl i gael gwared ar ordyfiant sy'n achosi rhwystr.  Mae gennym hefyd yr hawl i  fynnu bod perchnogion gwrych sy'n ymestyn dros yr hawl tramwy yn ei thorri nôl o fewn cyfnod o 14 diwrnod.

Os yw cilffordd yn cael ei difrodi oherwydd nad oes golau ac aer, oherwydd gwrychoedd neu goed cyfagos, gallwn ofyn am orchymyn gan lys yr ynadon, i fynnu fod y perchennog yn torri'r coed/gwrychoedd. Serch hynny, cyn defnyddio'r grym hwn, bydd y Cyngor Sir yn trafod y mater gyda pherchnogion y tir cyfagos a gofyn iddynt dorri'r gwrychoedd neu'r coed, neu gytuno i weithio gyda'r perchennog fel rhan o brosiect mwy.

 

Clirio isdyfiant

Rydym ni'n gyfrifol am sicrhau fod llystyfiant sy'n tyfu ar wyneb yr hawl tramwy cyhoeddus yn cael ei gadw dan reolaeth a ddim yn gwneud y llwybr yn  anodd i'w ddefnyddio.

Mae gennym raglen cynnal a chadw tymhorol, ac rydym yn torri'r llwybrau ar ein cronfa ddata bob mis Mai a mis Medi.  Os yw llwybr wedi'i rwystro gan isdyfiant ar adegau eraill rhowch wybod i ni.

 

Defnyddio plaladdwyr a chwynladdwyr

Gall plaladdwyr a chwynladdwyr fod yn beryglus ac fel arfer nid ydynt yn cael eu defnyddio ar hawliau tramwy cyhoeddus.  Weithiau byddwn yn chwistrelli llwybrau os mai hwn yw'r unig ffordd i gael gwared â chwyn peryglus neu ymledol.  Yn yr achosion hyn, byddwn yn gosod rhybuddion i roi gwybod i ddefnyddwyr y llwybr.

 

Delio â sbwriel a thipio anghyfreithlon

Cyngor dosbarth yr ardal sy'n gyfrifol am glirio sbwriel oddi ar hawl tramwy cyhoeddus. Os yw'r llwybr wedi'i rwystro oherwydd maint y sbwriel, bydd dyletswydd arnom i weithredu.

Rhoi gwybod i ni am sbwriel sydd wedi'i adael (tipio anghyfreithlon)

Cysylltiadau

Dilynwch ni ar:

Rhowch sylwadau am dudalen yma