Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwneud Cais am Dystysgrifau Hanes Teulu

Mae'r holl gofrestri sy'n cofnodi'r genedigaethau, marwolaethau a phriodasau a ddigwyddodd ym Mhowys o 1837 ymlaen bellach yn cael eu cadw yn y Swyddfa Gofrestru yn Llandrindod. Os ydych chi'n ceisio darganfod hanes eich teulu, gallwch archebu copïau o'r tystysgrifau yma.

I wneud cais am dystysgrif hanes teulu, bydd angen i chi anfon y canlynol atom:

Image of a family tree document

  • Enw llawn yr unigolyn/unigolion dan sylw
  • Dyddiad a lle'r enedigaeth/ y farwolaeth / y briodas.
  • Os yn bosibl, enwau'r rhieni, gan fod hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn dod o hyd i'r wybodaeth gywir ar eich cyfer.
  • Eich rhif ffôn yn ystod y dydd er mwyn i ni allu cysylltu â chi os oes angen i ni ofyn rhywbeth.

 

Gallwch roi'r wybodaeth i ni ar e-bost, dros y ffôn neu'n ysgrifenedig trwy ddefnyddio'r manylion cysylltu ar y dudalen hon.

Heb y wybodaeth yma, ni fydd yn bosibl i ni olrhain yr unigolyn neu'r unigolion rydych chi'n ceisio gwybodaeth amdanynt.

 

I gyrraedd adnoddau a gwybodaeth am ddigwyddiadau cyn 1837 cysylltwch â ni.

Pan fyddwch chi'n anfon y wybodaeth y gofynnwn amdani, bydd ein staff yn chwilio o fewn y cyfnod sydd hyd at un flwyddyn ar y naill ochr a'r llall i'r dyddiad a roddwch i ni. 

Byddwn yn ymdrin ag ymholiadau Hanes Teulu yn y drefn y byddant yn ein cyrraedd. Fodd bynnag, bydd unrhyw gais am dystysgrif at ddiben cyfreithiol, pensiwn, pasbort ac ati yn cael ei brosesu'n gyntaf.

Peidiwch â ffonio Swyddogion Cofrestru Unigol i gael tystysgrifau hanes teulu.

Byddwn yn codi ffi am gopi o dystysgrif.

Adnoddau eraill

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymchwilio i hanes teulu, gall Archifau Powys eich helpu.  Gallwch ddarganfod mwy am y cofnodion sydd gennym neu sut i ymweld â ni.  Gall Archifau Powys hefyd ymchwilio ar eich rhan os nad ydych yn gallu ymweld â ni eich hun, ac mae hefyd yn darparu gwasanaeth llungopïo.

Wyddech chi? Mae Archifau Powys yn cynnig sesiynau unigol i bobl â diddordeb mewn hanes teulu neu hanes lleol. 

 

Cyswllt

  • Ebost: registrars@powys.gov.uk
  • Rhif ffôn: 01597 827468
  • Cyfeiriad: Gwasanaethau Cofrestru, Y Gwalia, Ffordd Ieithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA

Rhowch sylwadau am dudalen yma