Gofyn am gopi o dystysgrif
Gallwn anfon copïau o dystysgrifau genedigaeth, marwolaeth, priodas a phartneriaeth sifil a ddigwyddodd ym Mhowys. Mae'n bosibl y byddwch angen y rhain at ddibenion swyddogol, e.e. gwneud cais am basbort, pensiwn neu daliadau tanwydd gaeaf.
I gyflwyno copi i chi, bydd angen i ni wybod:
- Enw llawn yr unigolyn neu'r unigolion dan sylw
- Dyddiad a lle'r enedigaeth / y farwolaeth / y briodas / y bartneriaeth sifil
- Os yn bosibl, enwau'r rhieni, gan fod hyn yn ein helpu i wirio'r cofrestri'n fwy manwl, i sicrhau ein bod yn dewis y cofnod cywir.
Os yw'r dystysgrif ar gyfer rhywun sydd wedi'i fabwysiadu, mae'n rhaid i chi anfon eich cais at:
General Register Office (ACR),
Smedley Hydro,
Southport,
PR8 2HH.
Mae angen dilyn proses wahanol i gael gafael ar dystysgrifau hanes teulu.