Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cael cyngor bywyd gwyllt: Ystlumod

bat

 
bat
Mae 18 rhywogaeth o ystlumod yn y DG (sydd tua chwarter o rywogaethau mamaliaid Prydain gyfan).  O'r rhywogaethau hyn, mae 14 wedi'u cofnodi ym Mhowys.

Er bod ystlumod yn byw yn naturiol mewn coed ac ogofâu, mae nifer wedi addasu i glwydo mewn adeiladau megis tai, eglwysi, ysguboriau, twneli a phontydd. Mae'r holl ystlumod cynhenid yn bwydo ar bryfaid ac nid ydynt yn perthyn i lygod a chnofilod eraill. Golyga hyn nad yw ystlumod sy'n clwydo mewn adeiladau yn cnoi trwy wifrau, pren, dodrefn nac eitemau eraill.

Mae cwymp sylweddol wedi bod mewn poblogaethau Prydeinig ac Ewropeaidd yn ystod y can mlynedd ddiwethaf sy'n golygu fod pob math o ystlum yn y DG a'u mannau clwydo'n cael eu diogelu'n llym gan y gyfraith.

Os ydych angen cyngor am ystlumod, mae .GOV.UK a'r Ymddiriedolaeth Gwarchod Ystlumod wedi llunio cyfarwyddwyd i berchnogion mannau clwydo a datblygwyr a rheolwyr safleoedd, gan gynnwys cyfarwyddyd am ofynion deddfwriaeth a thrwyddedau. Mae'r Ymddiriedolaeth Gwarchod Ystlumod hefyd yn rhoi cyngor trwy'r Llinell Gymorth Genedlaethol ar Ystlumod.

Os ydych yn amau bod ystlumod yn clwydo gerllaw, dylech siarad â Natural Resources Wales - Bats  cyn i chi ddechrau ar unwaith waith  strwythurol neu waith swnllyd iawn, codi goleuadau, tocio neu dorri coed.  Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi cyngor i chi ar y ffordd orau o weithio.  Os dewch o hyd i unrhyw ystlumod pan fyddwch yn gweithio ar eiddo neu goeden, dylech roi'r gorau i weithio ar unwaith a chysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru am gyngor.

Os ydych angen cyngor am ystlumod mewn perthynas â chais cynllunio ewch i dudalen Cynllunio a Datblygu (bywyd gwylit).