Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cael cyngor bywyd gwyllt: Adar

birds

 
birds
Mae pob aderyn, eu nythod a'u hwyau'n cael eu diogelu'n gyfreithlon ym Mhrydain.  Mae rhai adar, megis tylluanod gwyn, yn cael eu diogelu'n ychwanegol sy'n golygu ei fod yn anghyfreithlon i darfu ar yr adar pan fyddant ar eu nyth neu gerllaw.

Rydym yn argymell, er mwyn diogelu adar sy'n nythu (ac i gydymffurfio â'r gyfraith), na ddylid torri gwrychoedd a choed rhwng mis Mawrth ac Awst. Weithiau, bydd yr adar yn nythu'n gynt neu'n hwyrach, felly os ydych yn credu fod aderyn yn nythu, dylech osgoi torri tan fod y tymor nythu wedi gorffen yn llwyr.

Mae'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yn rhoi cyngor defnyddiol iawn ar rai materion cyffredinol megis:

  • Delio ag adar gwyllt sydd wedi'u hanafu
  • Adar sy'n nythu yn y to
  • Symud nythod adar
  • Rheoli gwrychoedd gardd

Mae hefyd yn rhoi cyngor i ffermwyr a pherchnogion tir ar reoli cynefinoedd ar gyfer adar trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys cyngor penodol i'r rheiny sy'n rhan o gynlluniau amaeth-amgylcheddol.

Os ydych angen cyngor am adar mewn perthynas â chais cynllunio ewch i'r adran Cynllunio a Rheoli Adeiladu.