Toglo gwelededd dewislen symudol

Cael cyngor bywyd gwyllt: Cynllunio a datblygu (bywyd gwyllt)

wildlife planning

 
wildlife planning
Mae'n bwysig ystyried pa effaith y gall datblygiad ei gael ar fywyd gwyllt lleol.  Os oes rhywogaethau wedi'u diogelu ar safle sy'n cael ei ddatblygu neu'n agos ato, gellir rhoi mesurau yn eu lle i'w diogelu tra bod y gwaith yn cael ei wneud. 

Gall nifer o ddatblygiadau fynd yn eu blaen fel y cynlluniwyd; mewn achosion eraill bydd angen gwneud newidiadau i ddiogelu'r bywyd gwyllt ar y safle. 

Wrth benderfynu ar gais, mae'n rhaid i awdurdodau cynllunio lleol ystyried unrhyw effaith ar fywyd gwyllt.  Yn aml, bydd cynnwys nodweddion sy'n amddiffyn a gwella bywyd gwyllt ac amrywiaeth yn gynnar mewn prosiect, fel arfer cyn bod cais cynllunio yn cael ei gyflwyno, yn arbed amser ac arian.  Gellir cael gwybodaeth ar rywogaethau a chynefinoedd a gofnodwyd ym Mhowys, gan gynnwys rhywogaethau a safleoedd wedi'u gwarchod, o ganolfan cofnodi biolegol lleol y sir.

Os oes gennych bryder am fioamrywiaeth sy'n gysylltiedig â chaniatad adeilad rhestredig, ceisiadau cynllunio, penderfyniadau cynllunio neu orfodi amodau cynllunio cysylltwch â'r adran Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau bywyd gwyllt cenedlaethol yma:

National wildlife guidance related to planning can be found here:

Nodyn Cyngor Technegol 5: Cadwraeth Natur a Chynllunio

Canllawiau ar gyfer Safleoedd Bywyd Gwyllt Cymru