Toglo gwelededd dewislen symudol

Cael cyngor bywyd gwyllt: Rhywogaethau a chynefinoedd pwysig a ddiogelir

Willdife_enquiries_protected_habitats_01

 

Willdife_enquiries_protected_habitats_01
Mae Powys yn gartref i amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt.  Mae nifer o blanhigion, mamaliaid, adar, pysgod, pryfaid a ffyngau ym Mhowys wedi'u diogelu gan y gyfraith a/neu'n cael eu hadnabod fel bod o bwysigrwydd cenedlaethol neu leol.  Mae hefyd rhai ardaloedd o dir a dwr sy'n cael eu diogelu oherwydd y bywyd gwyllt sy'n byw yna.

Os ydych angen gwybodaeth am leoliad neu ddosbarthiad rhywogaeth neu gynefin arbennig ym Mhowys, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth ar Fioamrywiaeth i Bowys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, (GGB) canolfan cofnodion biolegol lleol y sir. 

 

Mae nifer fawr o safleoedd ym Mhowys wedi'u diogelu'n gyfreithiol, gan gynnwys: 

  • Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
    Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn rhoi diogelwch statudol i'r enghreifftiau gorau o blanhigion, anifeiliaid, neu dirluniau y DG.  Defnyddir y safleoedd hyn hefyd i gefnogi dynodiadau cadwraeth natur cenedlaethol a rhyngwladol eraill, megis Ardaloedd Diogelwch Arbennig neu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Mae'r mwyafrif o SoDdGA mewn perchnogaeth breifat neu dan reolaeth breifat.  Mae dros 200 SoDdGA ym Mhowys.
  • Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
    Mae Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) wedi'u dynodi dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd y Gymuned Ewropeaidd.  Ardaloedd yw'r rhain sy'n cynrychioli'r ystod a'r amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau (heb fod yn adar) o fewn yr Undeb Ewropeaidd.  Mae Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ynghyd ag Ardaloedd Diogelu Arbennig, yn ffurfio rhwydwaith Natura 2000.  Mae sawl ACA ym Mhowys, gan gynnwys  Afonydd Wysg a'r Wy.
  • Ardaloedd Diogelu Arbennig
    Mae Ardaloedd Diogelu Arbennig (ADA) wedi'u dosbarthu gan Lywodraeth y DG dan Gyfarwyddeb Adar y Gymuned Ewropeaidd.  Y rhain yw cynefinoedd pwysicaf adar mudol a phrin yr Undeb Ewropeaidd.
  • Safleoedd Ramsar
    Mae Safleoedd Ramsar yn cael eu dynodi dan y ddeddfwriaeth a gytunwyd yn Ramsar, Iran yn 1971.  Y bwriad yn wreiddiol oedd i ddiogelu cynefinoedd adar dwr pwysig, ond erbyn hyn mae'n cynnwys pob agwedd ar gadwraeth gwlyptiroedd.  Mae safleoedd Ramsar yn cydnabod fod gwlyptiroedd yn fannau arbennig o bwysig ar gyfer bioamrywiaeth, cadwraeth a lles dynol. Mae rhan fechan o safle Ramsar ar aber Afon Dyfi ym Mhowys.

  • Parciau Cenedlaethol
    Mae parciau cenedlaethol wedi diogelu a gwella tirweddau gwledig ers 1949.  Maen nhw hefyd yn annog y cyhoedd i fwynhau cefn gwlad yn ogystal ag ystyried lles cymdeithasol ac economaidd y rheiny sy'n byw ynddynt.  Gellir cael rhagor  o wybodaeth ar Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar eu gwefan

  • Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
    Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (GNC) yw rhai o safleoedd naturiol a rhannol naturiol pwysicaf Prydain.  Mae'r rhain yn cael eu rheoli i ddiogelu eu cynefinoedd ac i alluogi cynnal astudiaethau gwyddonol ar y rhywogaethau sy'n byw yma.

  • Gwarchodfeydd Natur Lleol
    Mae Gwarchodfeydd Natur Lleol yn cael eu dynodi a'u rheoli gan y cyngor i ddiogelu natur.  Maen nhw'n darparu cyfleoedd am ymchwil ac addysg, ac er mwyn i bobl fwynhau natur.  Daeth Parc y Llyn yn Llandrindod yn Warchodfa Natur Lleol yn 2010.

  • Parciau Gwledig
    Mae'r rhain yn cael eu rheoli gan awdurdodau lleol i greu cyfleoedd hamdden, ond mae hefyd ardaloedd o gynefinoedd rhannol naturiol ac felly mae hamdden a'r amgylchedd naturiol yn mynd law yn lllaw.  Mae Parc Gwledig Craig-y-nos yn y Bannau Brycheiniog. 

    Gellir cael gwybodaeth a chyngor ar rywogaethau a ddiogelir dan y gyfraith,  AoDdGA, ACA, ADA, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a safleoedd Ramsar oddi ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru..

    Gweler hefyd y tudalennau ar Ystlumod ac Adar. 

 

Safleoedd sy'n bwysig yn lleol

Nid yw pob ardal sy'n bwysig i fywyd gwyllt wedi'i diogelu'n gyfreithiol.  Mae awdurdodau lleol a/neu ymddiriedolaethau bywyd gwyllt ar draws Cymru wedi datblygu meini prawf i ddewis safleoedd sy'n bwysig ar gyfer bioamrywiaeth leol. Unwaith y bydd safleoedd wedi'u dynodi, rydym yn rhoi gwybodaeth a chyngor i berchnogion tir i helpu gyda'r gwaith rheoli sy'n ystyried bywyd gwyllt.

Ym Mhowys, mae rhwydwaith o Safleoedd Bywyd Gwyllt wedi cael eu sefydlu gyda pherchnogion tir i ddiogelu'r cynefinoedd rhannol naturiol sy'n weddill.  Mae'r Cyngor Sir hefyd yn rheoli rhwydwaith o dros gant o Warchodfeydd Natur ar Ymyl y Ffyrdd, sy'n cael eu dewis a'u rheoli i ddiogelu eu diddordeb botanegol.  Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rhwydwaith Gwarchodfeydd Natur ar Ymyl y Ffyrdd ar dudalennau Partneriaeth Bioamrywiaeth Powys.