Hysbysiad: Grantiau Busnesau newydd ar gael nawr
Darllen mwy

Beth yw bioamrywiaeth?

Beth yw bioamrywiaeth?

ButterfliesMae'r ymadrodd bioamrywiaeth yn grynhoad o'r geiriau 'amrywiaeth biolegol' a'r ystyr, yn syml iawn, yw'r holl amrywiaeth o fywyd ar y ddaear. Mae bioamrywiaeth yn cynnwys popeth byw, planhigion, anifeiliaid, ffwng, algae, bacteria, a hyd yn oed firysau. Mae'n cynnwys rhywogaethau sy'n brin a chyffredin, a gallwch weld bioamrywiaeth cyfandir cyfan, neu leoliad bychan fel un cae.

 

Ar amrywiaeth rywogaethau ...

"Yr ystod hynny o fioamrywiaeth mae'n rhaid i ni ofalu amdano - y cyfan - yn hytrach na dim ond un neu ddwy seren."

David Attenborough

 

 

WaxcapsAmrywiaeth Genetig

Mae rhywogaethau sydd â chronfa mwy o enynnau yn gallu addasu os yw eu hamgylchedd yn newid oherwydd afiechyd, hinsawdd neu lygredd.  Rhai o'r enghreifftiau mwyaf amlwg o amrywiaeth enetig yw gwahaniaethau lliw, maint  siâp neu ymddygiad.

 

LapwingAmrywiaeth Rhywogaethol

Dyma nifer y gwahanol rywogaethau mewn ardal benodol.  Er enghraifft, y gwahanol rywogaethau o facteria, algae, planhigion, anifeiliaid di-asgwrn-cefn (e.e. mwydod/pryf genwair, pryfaid, gwas y neidr, malwod, gelennod ac ati) a'r anifeiliad ag asgwrn cefn (pysgod, adar, mamaliaid ac ati) sy'n gysylltiedig â llyn neu afon.

 

Insect and FlowersAmrywiaeth ecosystemau

Mae cymunedau o blanhigion ac anifeiliaid yn rhyng-gysylltu â'i gilydd a chyda'u hamgylchedd. Er enghraifft, mewn afon ceir gwe gymhleth o ryngweithio rhwng bacteria, algâu, planhigion, anifeiliaid di-asgwrn-cefn ac anifeiliaid ag asgwrn cefn a ffactorau eraill megis lefelau golau, tymheredd, gwaddodion a chemeg dŵr.  Mae'r holl bethau hyn gyda'i gilydd yn ffurfio ecosystem yr afon.  Yn ogystal ag afonydd a llynnoedd, mae gan Bowys ecosystemau coetiroedd, glaswelltiroedd a rhostiroedd.

 

Pam fod Bioamrywiaeth yn bwysig?

Mae bioamrywiaeth yn hanfodol i fywyd dynol.  Mae'n rhoi bwyd, cysgod, tanwydd a meddyginiaethau i ni ac mae wedi ysbrydoli rhai o dechnolegau ein hoes ni.  Mae bioamrywiaeth yn ychwanegu at ein tirlun a'n hymdeimlad o iechyd a lles. Mae planhigion oedd yn byw miliynau o flynyddoedd yn ôl yn darparu glo, olew a nwy ar ein cyfer heddiw. Mae planhigion hefyd yn rhoi tanwydd i ni ar ffurf coed, mawn, gwair a chansen siwgr.  Mae hyd yn oed plastigau a deunyddiau synthetig yn dod yn wreiddiol o olew, ac felly o blanhigion. 

Mae'r amrywiaeth fawr o blanhigion ac anifeiliaid yn rhoi ffynhonnell o fwyd i ni - rydym yn dibynnu ar y planhigion a'r anifeiliaid rydym yn eu bwyta ond hefyd ar y pryfaid sy'n peillio ein bwyd.  Mae angen i ni gynnal yr amrywiaeth genetig o fewn ffrwythau a llysiau er mwyn i ni barhau i'w tyfu wrth i'n hinsawdd newid, ac er mwyn ymdopi â phlâu ac afiechydon.

Mae'r elfennau sylfaenol ar gyfer llawer o'r meddyginiaethau cyfoes a ddefnyddiwn ar gyfer pob math o gyflyrau yn dod o'r byd naturiol, o gur pen ac anhwylderau treulio i malaria, canser ac afiechyd y galon. Gall hyd yn oed y rhywogaethau mwyaf di-nod fod yn werthfawr iawn.  Llwydni Penicillin notatum, oedd y gwrthfiotig cyntaf ynghyd â micro-organebau eraill ac mae hwn wedi arbed miliynau o fywydau.

Ecosystemau sy'n darparu ein dwr ffres, yn peillio ein cnydau bwyd, yn lliniaru llifogydd, yn storio carbon allan o'r atmosffer ac yn cynnig cyfleoedd hamdden gwych i ni yn ogsytal ag incwm gwerthfawr o dwristiaeth.

 

Diogelu bioamrywiaeth

Mae'r ffordd rydym yn byw yn y byd modern yn golygu bod rhywogaethau a chynefinoedd yn diflannu'n ddychrynllyd o gyflym. Mae'n bosibl nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli bod 98% o'n dolydd traddodiadol eisoes wedi diflannu.  Mae'r rhain yn datblygu dros gannoedd o flynyddoedd, ac unwaith y byddant wedi diflannu ni fydd yr amrywiaeth eang a'r nifer o flodau cefn gwlad sydd eu hangen ar bryfaid fel gwenyn ar gael.  Heb wenyn a phryfaid eraill sy'n peillio, ni fyddem yn gallu cynhyrchu'r rhan fwyaf o'r ffrwythau, y llysiau a'r planhigion eraill rydym yn eu cymryd yn ganiataol.

 

Gweithredu lleol

Er mwyn cyflawni nodau cadwraeth natur UK BAP, mae'n rhaid i ni weithredu y DG gyfan, gan gynnwys Cymru.  Cynhyrchwyd Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (LBAP) ar gyfer llawer o siroedd a pharciau cenedlaethol y DG, er mwyn blaenoriaethu camau gweithredu ar lefel leol. Mae dau LBAP yn gweithredu ar draws Powys; un ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac un ar gyfer gweddill Powys.  Cyhoeddwyd LBAP Powys am y tro cyntaf yn 2002 o dan y teitl: 'Ein Partneriaeth a Natur:  Cynllun Bioamrywiaeth Lleol ar gyfer Powys'.

M ae LBAP Powys yn ddogfen sy'n esblygu ac mae'n cael ei adolygu a'i diweddaru ar hyn o bryd.  Canlyniad yr adolygiad fydd 'Cynllun Gweithredu Adfer Natur Powys'.

Bydd y cynllun diwygiedig yma'n cael ei gyhoeddi yn 2018.  Bydd camau a gymerir i warchod bioamrywiaeth ym Mhowys yn cyfrannu at ddiogelu adnoddau naturiol yng Nghymru, y DG a gweddill y byd. 

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu