Toglo gwelededd dewislen symudol

Beth yw Bioamrywiaeth a Pham Mae'n Bwysig

Bioamrywiaeth yw amrywiaeth holl fywyd, eu helaethrwydd a'u hamrywiaeth genetig a'r rhyngweithiadau rhyngddynt o fewn ardal ddiffiniedig. Gall hyn bod o fewn gwarchodfa natur leol neu'r byd i gyd. Gellir mesur Bioamrywiaeth ar lefel yr ecosystem, cynefin, rhywogaeth a genetig. 

Pam fod bioamrywiaeth yn bwysig?

  • Amrywiaeth hon o fywyd sy'n rhoi popeth sydd ei angen i ni oroesi. Darperir y gwasanaethau ecosystem hyn gan yr amrywiaeth gyfoethog hon o fywyd . 
  • Mae bioamrwyiaeth yn bwysig gan ei fod yn galluogi rhywogaethau ac ecosystemau i addasu'n haws i newidiadau yn yr amgylchedd, megis newid hinsawdd. 
  • Mae bioamrywiaeth yn gwella ein tirwedd a'n hymdeimlad o iechyd a lles.

Rhestrir ystod o Wasanaethau Ecosystemau a ddarperir gan ein hamgylchedd naturiol isod.

  • Bwyd
  • Dŵr
  • Aer glân
  • Rheoli llygredd
  • Rheoleiddio tymheredd
  • Tanwydd
  • Cysgod
  • Storio carbon
  • Hamdden
  • Meddyginiaethau
  • Peillio
  • Lliniaru llifogydd
  • Twristiaeth

Diogelu bioamrywiaeth

Mae'r ffordd rydym yn byw yn y byd modern yn golygu bod rhywogaethau a chynefinoedd yn diflannu'n ddychrynllyd o gyflym. Bydd dirywiad mewn bioamrywiaeth yn effeithio ar ddarpariaeth bwyd, yr hinsawdd sy'n newid, a'n cydnerthedd ni ein hunain fel rhywogaeth. Mae'n bosibl nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli bod 98% o'n dolydd traddodiadol eisoes wedi diflannu.  Mae'r rhain yn datblygu dros gannoedd o flynyddoedd, ac unwaith y byddant wedi diflannu ni fydd yr amrywiaeth eang a'r nifer o flodau cefn gwlad sydd eu hangen ar bryfaid fel gwenyn ar gael.  Heb wenyn a phryfaid eraill sy'n peillio, ni fyddem yn gallu cynhyrchu'r rhan fwyaf o'r ffrwythau, y llysiau a'r planhigion eraill rydym yn eu cymryd yn ganiataol.