Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Lawntiau Trefi neu Bentrefi

Lawnt Tref neu Bentref yw ardal o dir sydd fel arfer o fewn anheddiad penodol a ddefnyddir gan bobl leol ar gyfer chwaraeon a hamdden. Gallai hyn gynnwys gemau sydd wedi'u trefnu neu gemau anffurfiol, picniciau a digwyddiadau pentref. Mae gan rai lawntiau hawliau tir comin drostynt hefyd.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd aelodau o'r cyhoedd, o 5 Mai 2017 ymlaen, yn gallu gwneud cais i newid cofnodion yng Nghofrestr Tir Comin Cymru os ydynt yn credu eu bod yn anghywir, ac os oes ganddynt dystiolaeth i ddangos hyn.  Ewch i'r dudalen 'Sut i chwilio, diwygio ac edrych ar y Gofrestr Tir Comin' i ddarganfod mwy. 

 

Cofrestri Tir Comin a Lawntiau Tref neu Bentref

Mae'r Cyngor yn gyfrifol am gynnal a chadw Cofrestr o Diroedd Comin a Chofrestr o Lawntiau Tref neu Bentref, ac ar hyn o bryd mae ganddo'r cofrestri a gasglwyd gan y tair hen sir, sef Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn.

Casglwyd y  wybodaeth yn y cofrestri o dan Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965, rhwng 1967 a 1970 ac maent yn cynnwys gwybodaeth yr holl diroedd comin a lawntiau pentref cofrestredig ym Mhowys.

Mae pob darn o dir cofrestredig wedi'i restru yn y cofrestri dan Rif Uned (CL neu VG) unigryw. Mae'r cofrestri hefyd yn dangos a oes unrhyw hawliau i bori'r comin, ac yn cofnodi manylion hawliadau perchnogaeth.

Gallwn roi gwybodaeth am weithdrefnau, ond ni allwn roi cyngor cyfreithiol. Os oes angen cyngor cyfreithiol neu ddehongliad o'r gyfraith arnoch, bydd cyfreithiwr yn gallu eich helpu. 

 

 

Chwiliad Cofrestriad Tir Comin - Q22 CON29(0)

I wneud chwiliad swyddogol o'r cofrestri tir comin. Bydd angen i chi ddefnyddio Cwestiwn 22.1 a 22.2 yn y ffurflen trawsgludiad eang ei defnydd, sef  'CON 29(O) Ymholiadau Dewisol yr Awdurdod Lleol.

Hola Cwestiwn 22.1: "A yw'r eiddo, neu unrhyw dir sy'n gyffiniol â'r eiddo, yn dir comin cofrestredig neu'n lawnt tref neu bentref dan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965 neu Ddeddf Tiroedd Comin 2006?"

Nid yw ymholiad chwilio CON29(O) yn dangos ond a yw darn o dir neu eiddo wedi'i gofrestru fel tir comin neu lawnt tref neu bentref yn y Cofrestri Swyddogol. Os ydych yn awyddus i wybod a oes gan ddarn o dir neu eiddo hawliau pori dros unrhyw dir comin cyffiniol neu gerllaw, cysylltwch â'r adran Cofrestru Tir comin i gael y manylion. Sylwch y  byddwn yn codi am gopïau o gofnodion y gofrestr a mapiau.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch y tudalennau am Ffioedd Pridiannau Tir

 

Gweld y Gofrestr

Gallwch weld y Cofrestri Statudol a Mapiau'r Cofrestri am ddim yn ystod oriau arferol y swyddfa.

Mae angen trefnu apwyntiad er mwyn sicrhau bod Swyddog wrth law i'ch hepu gyda'ch ymholiad.

Cedwir y Cofrestri a'r Mapiau yn ein swyddfeydd yn Y Gwalia, Llandrindod.

 

Ffioedd

I gael rhagor o wybodaeth am chwiliadau swyddogol y Gofrestr Tir Comin, gwelwch y wybodaeth am chwiliadau trwy'r Gofrestrfa Tir Comin.

  • Dyfyniad A4/A3 o'r Gofrestr Mapiau - o leiaf £6.00
  • Copïau o Wybodaeth o'r Gofrestr - o leiaf £6.00
  • Ymchwiliadau i Wybodaeth o'r Gofrestr - o leiaf £20.00 + TAW

Cyflwynwch eich cais yn ysgrifenedig gan angau cynllun i ddangos y tir rydych yn cyfeirio ato. Gellir talu trwy siec neu Gerdyn Credyd/Debyd dros y ffôn.

 

 

Cofrestru Lawnt Tref neu Bentref "Newydd"

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru tir comin dan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965 oedd y 31 Gorffennaf 1970. Roedd methu â chofrestru yn golygu nad oedd y tir bellach yn lawnt tref neu bentref ar gyfer dibenion cofrestru.

Fodd bynnag, ers 1 Awst 1990, daeth yn bosibl cofrestru tir fel lawnt 'newydd' i bentref neu dref dan y 'rheol ugain mlynedd'. Mae gweithdrefnau newydd dan Adran 15 Deddf Tir Comin 2006.

Ar hyn o bryd, nid oes tâl am wneud cais.

Gwneud cais

Er mwyn diwallu'r 'rheol ugain mlynedd', rhaid i ymgeiswyr allu cynnig tystiolaeth:

  1. Fod y tir wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer hamdden gan nifer sylweddol o drigolion mewn unrhyw le neu gymdogaeth o fewn yr ardal.
  2. Mae'r defnydd hamdden a wnaed o'r tir wedi bod: gyda hawl gyfreithiol

    Mae 'gyda hawl gyfreithiol' fel arfer yn cael ei ddehongli i olygu fod y bobl sy'n defnyddio'r tir heb ddefnyddio grym (e.e. ni fu rhaid iddynt dorri i mewn), heb ddefnyddio'r tir yn gyfrinachol a heb ofyn am ganiatâd rhywun i'w ddefnyddio.

  3. Mae'r defnydd hamdden a wnaed o'r tir wedi bod: at ddibenion chwaraeon a hamddena cyfreithlon
  4. Mae'r defnydd hamdden a wnaed o'r tir wedi bod: am gyfnod o ugain mlynedd o leiaf; ac mae'r defnydd hwnnw'n parhau hyd at ddiwrnod y cais; neu fod y cais wedi'i wneud o fewn dwy flynedd o'r dyddiad y daeth y defnydd hamdden i ben.

Cais am gofrestru tir yn Faes Tref neu Bentref - Ffurflen 44 (PDF) [36KB]

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y meini prawf hyn yn nodiadau cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru 

 

 

Rhybuddion Cyfreithiol

Hysbysiadau Tir Comin:

Byddwn yn sôn wrthych am y gweithdrefnau cyfreithiol sydd ar y gweill o ran cofrestri Tiroedd Comin a Lawntiau Tref neu Bentref ar ein tudalen o'r enw 'Cofrestru Tir Comin - Rhybuddion cyfreithiol'.

 

Website accessibility checker icon
    Mae'r dogfennau pdf ar y dudalen hon yn cydymffurfio â safonau hygyrchedd.