Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Archwilio Pridiannau Tir

Mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i gadw Cofrestr Pridiannau Tir Lleol. Mae Pridiannau Tir Lleol yn gyfyngiadau neu'n waharddiadau ar ddarnau o dir, sy'n rhwymo perchnogion neu ddeiliaid y darn o dir.  Ni fydd y cyfyngiadau hyn fel rheol i'w gweld ar y gweithredoedd felly bydd Archwiliadau Awdurdod Lleol yn cael eu cynnal fel rhan o'r broses trawsgludo wrth brynu neu ail roi morgais ar eiddo.

Mae'r Archwiliad Awdurdod Lleol yn rhan o'r broses trawsgludo. Ei diben yw gwarchod rhai allai fod yn prynu eiddo neu dir, a sicrhau eu bod yn ymwybodol o unrhyw faterion sy'n effeithio ar yr eiddo neu dir. 

Mae dwy elfen i'r archwiliad - ffurflen LLC1 a ffurflen CON29.

  • Ffurflen LLC1 - cais i chwilio trwy'r Gofrestr Pridiannau Tir ac am dystysgrif archwilio swyddogol. (Mae'r rhan hon o'r archwiliad yn ymwneud â phridiannau y gellir eu cofrestru, er enghraifft Ardaloedd Cadwraeth, Gorchmynion Gwarchod Coed, Adeiladau Rhestredig, Rhybuddion Gorfodi, Amodau sydd ynghlwm wrth Ganiatâd Cynllunio ac ati.)
  • Ffurflen CON29 - rhestr o ymholiadau arferol i Awdurdodau Lleol a rhai ymholiadau dewisol ychwanegol. (Mae'r rhan hon o'r archwiliad yn ymdrin â Statws yn y Cynllun Datblygu, Ffyrdd, Tir Llygredig, Rheoliadau Adeiladu, Hanes Cynllunio Arall ayb.)

Nodwch na fydd yr archwiliad yn cynnwys gwybodaeth am eiddo sydd gerllaw. Os oes gennych bryderon am eiddo neu dir sydd gerllaw, gallwch ofyn am ymholiad ychwanegol.

Wrth ofyn am Archwiliad Awdurdod Lleol, gwnewch yn siwr eich bod yn cynnwys y canlynol:

  • Ffurflen LLC1
  • Ffurflen CON29
  • Y ffi cywir (gweler y tabl isod) - dylid gwneud sieciau'n daladwy i Gyngor Sir Powys.

Rhaid cyflwyno archwiliadau gyda chynllun safonol yr OS, gyda llinell goch o amgylch yr ardal sydd i'w harchwilio. Dylai'r cynllun fod yn un cyfredol ac yn dangos yr ardal archwilio yn glir mewn perthynas ag eiddo cyfagos.

 

Ffioedd Archwilio

LLC1

Mae'r LLC1 yn parhau y tu allan i sgop TAW.

  • Ffi Safanol - £6.00
  • Ffi NLIS - £4.00

Archwiliad Personol

  • Ffi Safanol - £0.00
  • Ffi NLIS - N/A

Parsel Ychwanegol

  • Ffi Safanol - £1.00
  • Ffi NLIS - £1.00

CON 29 Ymholiadau am yr Eiddo sydd ei Angen

  • CON29R

    • Ffi Safonol - £147.50
    • Ffi TAW- £29.50
    • Ffi Safonol yn cynnwys TAW - £177.00
    • Ffi NLIS - £147.50
    • Ffi TAW - £29.50
    • Ffi NLIS yn cynnwys TAW - £177.00
  • Parsel ychwanegol o dir

    • Ffi Safonol - £15.83
    • Ffi TAW- £3.17
    • Ffi Safonol yn cynnwys TAW - £19
    • Ffi NLIS - £15.83
    • Ffi TAW- £3.17
    • Ffi NLIS yn cynnwys TAW - £19

Ymholiadau Eiddo Dewisol

  • CON29 Ymholiad Dewisol Rhif 22

    • Ffi Safonol - £27.50
    • Ffi TAW- £5.50
    • Ffi Safonol yn cynnwys TAW - £33.00
  • Holl Ymholiadau Dewisol CON29 eraill

    • Ffi Safonol - £15.83
    • Ffi TAW- £3.17
    • Ffi Safonol yn cynnwys TAW - £19

Ymholiadau Drafft

  • Ffi Safonol - £27.50
  • Ffi TAW- £5.50
  • Ffi Safonol yn cynnwys TAW - £33.00

Chwiliadau Personol

Gellir gweld chwiliadau personol o'r Gofrestr Pridiannau Tir yn Nhy Maldwyn, Brook Street, y Trallwng, SY21 7PH.

Gall y rhai sy'n edrych ar chwiliadau personol lunio nodiadau o'r sgrin ond ni chaniateir cymryd ffotograffau nac argraffu'r Gofrestr Pridiannau Tir.

Ni ddarperir Tystysgrif Pridiannau Tir Lleol.

Trefnu Apwyntiadau ar gyfer Chwiliadau Personol

  • Gellir gwneud chwiliadau personol o'r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol drwy apwyntiad yn unig.
  • Rhaid gwneud apwyntiad o leiaf 5 niwrnod gwaith ymlaen llaw - Ffôn: 01938 551049 E-bost: land.charges@powys.gov.uk
  • Mae apwyntiadau ar gael ddyddiau Mercher yn unig rhwng 10:00 a 13:00 a 14:00 i 16:00.  Bydd pob apwyntiad yn para awr yn unig.
  • Wrth wneud apwyntiad, dylid darparu enw, cyfeiriad a manylion cyswllt chwiliadau, ynghyd â chyfeiriad post llawn a chynllun lleoliad yr eiddo i'w chwilio.
  • Nid yw'n dderbyniol bwcio sawl slot  heb gyfeiriadau'r eiddo.
  • Dylid anfon cadarnhad o'ch apwyntiad ynghyd â chynlluniau chwilio drwy e-bost i'r Adran Pridiannau Tir cyn gynted ag y bydd yr apwyntiad wedi'i wneud. Gallai methu â gwneud hynny arwain at ganslo eich apwyntiad.

Y Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol (NLIS)

Menter gan y llywodraeth yw'r NLIS sy'n ceisio cyflwyno gwasanaethau'n electronig.  Mae Powys wedi'i chysylltu â'r NLIS ar lefel 3 ac mae'n gallu derbyn ceisiadau i archwilio yn electronig, a dychwelyd canlyniadau archwilio yn electronig.

Cysylltiadau

  • Ebost: land.charges@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01938 551111 / 01938 551049
  • Cyfeiriad: Cyngor Sir Powys, Ty Maldwyn, Stryd Brook, Y Trallwng, Powys SY21 7PH

Rhowch sylwadau am dudalen yma

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu