Mae gan Gyngor Sir Powys ddyletswydd gyfreithiol i sefydlu Fforwm Mynediad Lleol (FfMLl). Prif swyddogaeth y FfMLl yw rhoi cyfarwyddyd i'r Cyngor am fynediad y cyhoedd i dir yn yr ardal ar gyfer hamddena yn yr awyr agored a mwynhau'r ardal, gan ystyried anghenion rheoli tir a harddwch naturiol yr ardal.
Mae'r FfMLl yno hefyd i gynghori cyrff eraill, gan gynnwys Adnoddau Naturiol Cymru, am 'fynediad agored'.
Un cyfrifoldeb pwysig sydd gan y FfMLl yw ystyried a ddylid rhoi mynediad cyhoeddus i dir ai peidio dan y cynllun amaeth-amgylchedd Glastir, sydd heb fynediad cyhoeddus ar hyn o bryd, ac os felly, lle ddylai'r mynediad hwn fod.
Mae pob cyfarfod yn agored i'r cyhoedd, ac mae'r Fforwm yn cysylltu â MFfLl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy'n dod yn bennaf o fewn Powys.
Cyfarfodydd
Mae cyfarfodydd y Fforwm Mynediad Lleol yn cael eu cynnal ar ffurf hybrid ar hyn o bryd, felly gall presenoldeb fod yn rhithiol trwy 'Teams' neu wyneb yn wyneb yn Neuadd y Sir, Llandrindod. Mae cyfarfodydd wedi'u trefnu ar gyfer y dyddiadau canlynol:
31 Mawrth 2025
30 Mehefin 2025
Os hoffech fynychu i arsylwi cyfarfod Fforwm Mynediad Lleol rhithiol fel aelod o'r cyhoedd, cysylltwch â ni cyn y cyfarfod fel y gallwn e-bostio dolen atoch i ymuno ag ef.
Daw aelodau'r Fforwm o bob cwr o Bowys, ac mae'n cynnwys meysydd diddordeb mor eang sy'n bosibl. Mae un Cynghorydd Sir yn eistedd ar y Fforwm i gynrychioli'r Cyngor. Mae'r holl aelodau'n eistedd fel unigolion ac nid fel cynrychiolwyr corff.
Caiff sefydlu a gweithredu'r FfMLlau ei llywodraethu gan Reoliadau a chyfarwyddyd. Rhaid i'r FfMLl gwrdd o leiaf dwywaith y flwyddyn. Fodd bynnag, cynhelir cyfarfodydd fel arfer deirgwaith y flwyddyn ac fel arfer yn ardal Llandrindod, neu mewn lleoliad arall a gytunir gan aelodau'r Fforwm. Penderfynwyd y byddai un cyfarfod y flwyddyn yn ymweliad safle, i'w gytuno unwaith eto gan aelodau.
Mae'r rheoliadau yn dweud fod rhaid i'r FfMLl gael ysgrifenydd enwebedig. Dangosir manylion cyswllt yr ysgrifennydd o dan y rhan 'Cysylltiadau' ar y dudalen hon. Bydd staff Gwasanaethau Cefn Gwlad sy'n gallu cynghori ar fusnes pob cyfarfod yn cefnogi'r Ysgrifennydd yn y FfMLl.
Aelodau'r Fforwm
Cynrychiolydd y Cyngor ar y Fforwm yw'r Cynghorydd Sir Gareth E Jones. Aelodaeth y Fforwm Mynediad Lleol ar gyfer ei dymor 2023-26 yw: