Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Eich seremoni

Bydd angen dau dyst ar gyfer eich priodas neu bartneriaeth. Dylai'r tystion hyn fod yn 18 oed neu'n hyn. Os ydych yn defnyddio dehonglydd/cyfieithydd, bydd  rhaid iddo yntau/iddi hithau hefyd fod yn dyst. 

Gan fod ein Cofrestryddion yn cynnal sawl seremoni ar yr un diwrnod fel arfer, sylwch os byddwch yn hwyr ar gyfer eich seremoni, mae'n bosibl y bydd yn rhaid iddi gael ei thocio i wneud yn siwr bod gan y Cofrestrydd ddigon o amser i deithio i'w apwyntiad nesaf.

Image of the exchanging of rings

Os ydych am i'ch priodas neu'n partneriaeth sifil gael ei chynnal yn Gymraeg, cysylltwch â ni er mwyn i ni drefnu Cofrestrydd sy'n siarad Cymraeg.

Cadw lle ar gyfer eich dathliad Trefnu Seremoni

O 10 Rhagfyr 2014 ymlaen, bydd yn bosibl trosi eich Partneriaeth Sifil yn briodas. I drefnu hyn, ffoniwch y Swyddfa Gofrestru yn Llandrindod. Bydd y staff yno'n gallu trefnu apwyntiad yn unrhyw un o swyddfeydd Powys drosoch.

Bydd gofyn i'r ddau ohonoch chi lofnodi datganiad ar adeg yr apwyntiad yn cytuno i'r newid, a phan fydd hyn wedi'i gofrestru, byddwch yn cael tystysgrif priodas.

Bydd angen i'r ddau/ i'r ddwy ohonoch gynhyrchu'r dogfennau canlynol ar gyfer y 2 bartner:

  • Pasbort dilys
  • Tystiolaeth o le rydych yn byw (e.e. bil cyfleustodau, cyfriflenni banc)
  • Eich tystysgrif Partneriaeth Sifil

 

Cyswllt

  • Ebost: registrars@powys.gov.uk
  • Rhif ffôn: 01597 827468
  • Cyfeiriad: Gwasanaethau Cofrestru, Y Gwalia, Ffordd Ieithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA

Rhowch sylwadau am dudalen yma