Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Priodi Dramor

Os ydych yn ddinesydd Prydeinig ac yn bwriadu priodi dramor, yn y lle cyntaf dylech gysylltu â Llysgenhadaeth neu Swyddfa Is-Gennad y wlad dan sylw i wirio eu gofynion cyfreithiol. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cyflawni gofynion cyfreithiol y wlad honno.

Mae'n bosibl y bydd angen i chi gael 'Tystysgrif Dim Rhwystr'. I gael hon, bydd angen i chi drefnu hysbysiad yn y ffordd arferol, a bydd Tystysgrif Dim Rhwystr yn cael ei chyflwyno ar ddiwedd y cyfnod aros. Mae'n bosibl y bydd angen cyfieithiad o'r ddogfen cyn ei dilysu.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad