Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Beth sydd ei angen arnom

Er mwyn trefnu priodas sifil neu bartneriaeth sifil newydd bydd rhaid i chi a'ch partner gyflwyno Hysbysiad Priodas/Hysbysiad Partneriaeth Sifil i'r Cofrestrydd lle rydych yn byw. Os byddwch yn priodi mewn capel neu eglwys ar wahân i'rEglwys yng Nghymru, bydd rhaid i chi roi Hysbysiad Priodas i'r Cofrestrydd.

Pan fyddwch yn cyflwyno hysbysiadau o'ch priodas/partneriaeth sifil, rhaid i'r ddau ohonoch gyflwyno'r dogfennau hyn yn yr apwyntiad:

  • Prawf o'ch enw, eich dyddiad geni a'ch cenedligrwydd

i)       Pasbort dilys (gyda Visa os yw'n berthnasol)

ii)     Cerdyn preswylio biometrig (os yw'n berthnasol)

iii)    Tystiolaeth o statws Cynllun Preswylio'n Sefydlog yr Undeb Ewropeaidd (os yw'n gymwys)

iv)    Os nad oes gan un cymar basbort dilys rhaid cyflwyno copi o'ch tystysgrif eni hir (gydag enwau eich rhieni) fel prawf o bwy ydych chi / eich cenedligrwydd. Os cafodd un ohonoch chi eich geni ar ôl mis Ionawr 1983 rhaid i chi hefyd cyflwyno copi o dystysgrif eni eich mam.

  • Prawf o'ch cyfeiriad (Rhaid i'r ddau ohonoch gyflwyno un o'r dogfennau isod)

i)       Bil cyfleustodau (dŵr a thrydan ac ati) heb fod yn hŷn na thri mis cyn yr apwyntiad. (Rhaid i'r bil fod am wasanaethau a dderbyniwyd yn yr eiddo megis nwy, trydan, dŵr ac yn y blaen)

ii)     Cyfriflen banc/cymdeithas adeiladu'n dwyn dyddiad un mis cyn yr apwyntiad.

iii)    Y bil Treth y Cyngor mwyaf diweddar ar gyfer eich cartref ac arno ddyddiad o fewn deuddeng mis o'r apwyntiad.

iv)    Trwydded yrru ddilys y DU, yr Undeb Ewropeaidd, Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir (wedi'i chofrestru i'ch cyfeiriad cyfredol).

v)      Cyfriflen Morgais o'r deuddeng mis diwethaf

vi)    Cytundeb Tenantiaeth cyfredol

vii)   Fel arall, os nad yw un ohonoch yn breswylydd parhaol yn yr ardal, cewch ddod â llythyr o berchennog y cyfeiriad lle rydych yn aros gan gadarnhau y cyfeiriad llawn, pwy ydych chi a'ch enw (enwau) llawn. Rhaid i'r llythyr gael ei lofnodi a'i ddyddio o fewn un mis o'r dyddiad y rhoddir hysbysiad o briodas

  • Prawf amgylchiadau (os yw'n gymwys)

i)       Os ydych wedi cael ysgariad neu eich bod wedi diddymu'ch partneriaeth sifil - rhaid cyflwyno'r archddyfarniad absoliwt ar gyfer ysgaru neu ddiddymu partneriaeth sifil.

ii)     Os ydych yn weddw - rhaid cyflwyno tystysgrif marwolaeth eich gŵr/gwraig / partner sifil

  • Prawf o newid eich enw (os yn berthnasol)

e.e. Datganiad statudol, gweithred newid enw (deed poll) neu gyfwerth.


Rhaid cyflwyno dogfennau gwreiddiol, ni dderbyniwn lungopïau.

Os nad yw unrhyw un o'r dogfennau hyn yn Saesneg bydd rhaid i chi ddarparu cyfieithiadau yn ogystal â'r dogfennau gwreiddiol.

SYLWCH: Os nad ydych chi neu'ch cymar yn Wladolyn (dinesydd) y Deyrnas Unedig a/neu nid ydych yn breswylydd parhaol yng Nghymru neu Loegr, cysylltwch â Swyddfa Cofrestru Powys oherwydd efallai y bydd angen mwy o ddogfennau arnoch er mwyn cyflwyno hysbysiad

Bwcio Dathliad Trefnu Seremoni

 

Cyswllt

  • Ebost: registrars@powys.gov.uk
  • Rhif ffôn: 01597 827468
  • Cyfeiriad: Gwasanaethau Cofrestru, Y Gwalia, Ffordd Ieithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA

Rhowch sylwadau am dudalen yma