Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trefnu seremoni enwi sifil

Mae seremonïau enwi neu groesawu yn ddewis arall heb fod yn grefyddol, yn hytrach na bedydd.

Cyn cynnal seremoni enwi neu groesawu  mae angen i chi gofrestru genedigaeth y plentyn a bydd gofyn i chi ddod â'r dystysgrif geni pan fyddwch yn trefnu'r seremoni.

Family group

Dathliad yw Seremoni Enwi, felly nid oes ganddo statws cyfreithiol. Efallai y byddwch hefyd yn penderfynu cael seremoni enwi i groesawu llys-blentyn neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu i'r teulu.

Fel arfer bydd y seremoni'n para tua 20 munud ond bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar nifer y darlleniadau a'r dewisiadau sy'n cael eu cynnwys.

Gellir cynnal seremonïau mewn Swyddfa Gofrestru neu mewn unrhyw leoliad a gymeradwyir gan y Cyngor. Os ydych yn dewis cynnal seremoni mewn un o'r lleoliadau hyn, cysylltwch â nhw'n uniongyrchol i weld beth fydd y gost a pha ddyddiadau sydd ar gael.

Trefnu seremoni Cais seremoni enwi sifil

 

Cyswllt

  • Ebost: registrars@powys.gov.uk
  • Rhif ffôn: 01597 827468
  • Cyfeiriad: Gwasanaethau Cofrestru, Y Gwalia, Ffordd Ieithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA

Rhowch sylwadau am dudalen yma