Trefnu seremoni enwi sifil
Mae seremonïau enwi neu groesawu yn ddewis arall heb fod yn grefyddol, yn hytrach na bedydd.
Cyn cynnal seremoni enwi neu groesawu mae angen i chi gofrestru genedigaeth y plentyn a bydd gofyn i chi ddod â'r dystysgrif geni pan fyddwch yn trefnu'r seremoni.
Dathliad yw Seremoni Enwi, felly nid oes ganddo statws cyfreithiol. Efallai y byddwch hefyd yn penderfynu cael seremoni enwi i groesawu llys-blentyn neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu i'r teulu.
Fel arfer bydd y seremoni'n para tua 20 munud ond bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar nifer y darlleniadau a'r dewisiadau sy'n cael eu cynnwys.
Gellir cynnal seremonïau mewn Swyddfa Gofrestru neu mewn unrhyw leoliad a gymeradwyir gan y Cyngor. Os ydych yn dewis cynnal seremoni mewn un o'r lleoliadau hyn, cysylltwch â nhw'n uniongyrchol i weld beth fydd y gost a pha ddyddiadau sydd ar gael.
Trefnu seremoni Cais seremoni enwi sifil
Cyswllt
Rhowch sylwadau am dudalen yma