Toglo gwelededd dewislen symudol

Setiau Data Trethi Busnes

business rates datasets image
Gall ychydig o wybodaeth a ryddheir trwy gais Rhyddid Gwybodaeth neu Reoliadau Amgylcheddol fod o ddiddordeb cyffredinol i'r cyhoedd. Yn yr achosion hyn, byddwn yn sicrhau fod y wybodaeth hon ar gael yn y setiau data yma.

Pob eiddo busnes ym Mhowys

Mae'r rhestr hon yn cynnwys pob eiddo ym Mhowys sy'n talu trethi busnes. Mae'r data'n cynnwys cyfeirnod yr eiddo a chyfeiriad yr eiddo, y dyddiad y daeth y trethdalwr yn atebol am dalu'r dreth, y gwerth ardrethol, a disgrifiad o'r eiddo.

Rhestr o'r holl eiddo busnes - Ionawr 2024 (ZIP) [510KB]

*Bydd y data yma yn cael ei ddiweddaru yng Ngorffennaf, Hydref, Ionawr ac Ebrill.

Cyfrifon gyda Chredydau o Flwyddyn Flaenorol

Mae'r rhestr yma'n cynnwys cyfrifon sydd â chredyd o flwyddyn flaenorol. Mae'r data'n cynnwys swm y credyd o flwyddyn flaenorol, a'r flwyddyn ariannol y mae'n gysylltiedig â hi. Os credwch fod gennych hawl i swm yn y rhestr yma, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais am ad-daliad.

Rhestr o gredydau o flynyddoedd blaenorol, Mehefin 2023 (ZIP) [20KB]

*Bydd y data yma'n cael ei ddiweddaru bob mis Mehefin.

Cyfrifon mewn Credyd

Mae'r rhestr yma'n cynnwys cyfrifon mewn credyd. Mae'r data'n cynnwys swm y credyd a'r flwyddyn ariannol y mae'n perthyn iddo. Os credwch fod gennych hawl i swm yn y rhestr yma, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais am ad-daliad.

Rhestr cyfrifon mewn credyd - Ionawr 2024 (ZIP) [23KB]

*Bydd y data yma'n cael ei ddiweddaru yng Ngorffennaf, Hydref, Ionawr ac Ebrill.

Eiddo'n derbyn Rhyddhad Ardrethi

Mae'r rhestr yma'n cynnwys eiddo y mae'r trethdalwr yn derbyn rhyddhad ardrethi, gan gynnwys rhyddhad gorfodol ac elusennol, rhyddhad yn ôl disgresiwn a rhyddhad ardrethi busnesau bychain. Sylwch y gall busnes dderbyn sawl math o ryddhad, ac felly mae'n bosibl y bydd ei enw'n ymddangos sawl gwaith.

Eiddo'n derbyn rhyddhad ardrethi fis - Ionawr 2024 (ZIP) [437KB]

*Bydd y data yma'n cael ei ddiweddaru yng Ngorffennaf, Hydref, Ionawr ac Ebrill

Cyfraddau Casgliadau Trethi Annomestig

Y swm o drethi annomestig gwirioneddol sydd wedi cael eu casglu gan awdurdodau lleol ar gyfer pob blwyddyn ariannol o'i gymharu â'r symiau a gyllidebwyd i'w casglu.

Gweld rhagor o wybodaeth ar Cyfraddau Casgliadau Trethi Annomestig ar wefan StatsCymru