Setiau Data Trethi Busnes
Gall ychydig o wybodaeth a ryddheir trwy gais Rhyddid Gwybodaeth neu Reoliadau Amgylcheddol fod o ddiddordeb cyffredinol i'r cyhoedd. Yn yr achosion hyn, byddwn yn sicrhau fod y wybodaeth hon ar gael yn y setiau data yma.
Pob eiddo busnes ym Mhowys
Mae'r rhestr hon yn cynnwys pob eiddo ym Mhowys sy'n talu trethi busnes. Mae'r data'n cynnwys cyfeirnod yr eiddo a chyfeiriad yr eiddo, y dyddiad y daeth y trethdalwr yn atebol am dalu'r dreth, y gwerth ardrethol, a disgrifiad o'r eiddo.
Rhestr o'r holl eiddo busnes - Hydref 2024 (ZIP) [493KB]
*Bydd y data yma yn cael ei ddiweddaru yng Ngorffennaf, Hydref, Ionawr ac Ebrill.
Cyfrifon gyda Chredydau o Flwyddyn Flaenorol
Mae'r rhestr yma'n cynnwys cyfrifon sydd â chredyd o flwyddyn flaenorol. Mae'r data'n cynnwys swm y credyd o flwyddyn flaenorol, a'r flwyddyn ariannol y mae'n gysylltiedig â hi. Os credwch fod gennych hawl i swm yn y rhestr yma, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais am ad-daliad.
Rhestr o gredydau o flynyddoedd blaenorol, Mehefin 2024 (ZIP) [21KB]
*Bydd y data yma'n cael ei ddiweddaru bob mis Mehefin.
Cyfrifon mewn Credyd
Mae'r rhestr yma'n cynnwys cyfrifon mewn credyd. Mae'r data'n cynnwys swm y credyd a'r flwyddyn ariannol y mae'n perthyn iddo. Os credwch fod gennych hawl i swm yn y rhestr yma, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais am ad-daliad.
Rhestr cyfrifon mewn credyd - Hydref 2024 (ZIP) [18KB]
*Bydd y data yma'n cael ei ddiweddaru yng Ngorffennaf, Hydref, Ionawr ac Ebrill.
Eiddo'n derbyn Rhyddhad Ardrethi
Mae'r rhestr yma'n cynnwys eiddo y mae'r trethdalwr yn derbyn rhyddhad ardrethi, gan gynnwys rhyddhad gorfodol ac elusennol, rhyddhad yn ôl disgresiwn a rhyddhad ardrethi busnesau bychain. Sylwch y gall busnes dderbyn sawl math o ryddhad, ac felly mae'n bosibl y bydd ei enw'n ymddangos sawl gwaith.
Eiddo'n derbyn rhyddhad ardrethi fis - Hydref 2024 (ZIP) [505KB]
*Bydd y data yma'n cael ei ddiweddaru yng Ngorffennaf, Hydref, Ionawr ac Ebrill
Cyfraddau Casgliadau Trethi Annomestig
Y swm o drethi annomestig gwirioneddol sydd wedi cael eu casglu gan awdurdodau lleol ar gyfer pob blwyddyn ariannol o'i gymharu â'r symiau a gyllidebwyd i'w casglu.
Gweld rhagor o wybodaeth ar Cyfraddau Casgliadau Trethi Annomestig ar wefan StatsCymru