Toglo gwelededd dewislen symudol

Threthi Busnes: Hysbysiadau Cwblhau

Mae dyletswydd ar y cyngor i roi gwybod i Asiantaeth y Swyddfa Brisio am adeiladau newydd ac adeiladau sydd wedi cael eu haddasu'n sylweddol.  Byddwn yn canfod pryd cafodd yr adeilad ei orffen er mwyn ei roi ar y Rhestr Brisio.

 

'Does dim diffiniad cyfreithiol o 'gwblhau' adeilad.  Yn ôl y gyfraith rhaid i'r eiddo fod yn 'ddiogel yn strwythurol ac yn addas i'w fyw ynddo neu'i ddefnyddio'.

 

Y broses

Gellir codi Trethi Annomestig Cenedlaethol ar eiddo dim ond pan fydd ar y Rhestr Brisio, ac yn ôl y rheolau ariannol, rhaid i ni sicrhau:

  • Bod pob eiddo ardrethol ar y rhestr
  • Bod eiddo'n cael eu cynnwys mor fuan â phosibl

Er mwyn i ni ystyried a chyflwyno Hysbysiad Cwblhau, rhaid i ni:

  • Wybod pwy sy'n berchen ar yr adeilad newydd neu;
  • Wybod pwy sy'n berchen ar adeilad sydd wedi cael ei addasu o adeilad presennol.

Byddwn yn cyflwyno Hysbysiad Cwblhau i berchennog yr adeilad (oni bai y bydd y Swyddog Rhestru'n rhoi cyfarwyddiadau ysgrifenedig fel arall) os ydyn ni'n credu bod:

  • Adeilad newydd wedi'i gwblhau neu'n ymddangos felly neu;
  • Bod modd cwblhau unrhyw waith sydd ar ôl o fewn y tri mis nesaf.

 

Dyddiad cwblhau

Yn dilyn cyflwyno Hysbysiad Cwblhau, y dyddiad cwblhau fydd:

  • Y dyddiad sydd ar yr Hysbysiad, os na fydd y perchennog yn apelio o fewn 28 diwrnod.
  • Dyddiad y bydd yr awdurdod a'r perchennog yn cytuno arno.
  • Dyddiad a bennwyd gan Dribiwnlys Prisio yn dilyn apêl lwyddiannus

 

Eiddo'n gyflawn ond ned ynddo ar hyn o bryd? 

Bydd eiddo newydd sydd un ai newydd gael eu hadeiladu neu wedi'u creu drwy addasu adeilad arall, sydd yn wag a heb ddodrefn, ddim yn gorfod talu trethi annomestig am hyd at 3 neu 6 mis, yn dibynnu ar eu dosbarthiad.  Yn dilyn hyn, bydd rhaid talu'r trethi'n llawn.

Bydd y cyfnod na fyddwch yn gorfod talu'n cychwyn ar y dyddiad cwblhau sydd ar yr Hysbysiad Cwblhau.

 

Yr hawl i apelio

Rhaid apelio trwy lythyr i'r Tribiwnlys Brisio o fewn 28 diwrnod o ddyddiad cyflwyno'r Hysbysiad Cwblhau.   Ond byddem yn cynghori perchnogion i gysylltu â ni'n gyntaf rhag ofn y gallwn gytuno ar ddyddiad newydd.

Rhaid cynnwys copi o'r Hysbysiad Cwblhau a datganiad yn nodi ar ba sail rydych chi'n apelio, gyda'r apêl i'r Tribiwnlys.

Fe welwch rhagor o fanylion ar wefan y Tribiwnlys Prisio.

Os ydych chi'n apelio, bydd rhaid i chi dalu'r trethi yn y cyfamser wrth iddynt ystyried yr apêl.