Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trethi Busnes: Lluosydd Ardrethu

Rydym yn cyfrifo bil treth eiddo trwy luosi ei werth ardrethol â swm penodol.  Gelwir y swm hwn yn 'luosydd ardrethu' (rating multiplier)

Bob blwyddyn mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n pennu'r lluosydd.  Nid yw'n gallu codi mwy na chyfradd chwyddiant (heblaw mewn blwyddyn ailbrisio).

Mae'r lluosydd ar gyfer pob blwyddyn ariannol fel a ganlyn (ceiniog yn y bunt):

  • 2024-2025        56.2c
  • 2023-2024        53.5c
  • 2022-2023        53.5c
  • 2021-2022        53.5c
  • 2020-2021        53.5c
  • 2019-2020        52.6c
  • 2018-2019        51.4c
  • 2017-2018        49.9c
  • 2016-2017        48.6c
  • 2015-2016        48.2c
  • 2014-2015        47.2c
  • 2013-2014        46.4c
  • 2012-2013        45.2c
  • 2011-2012        42.8c
  • 2010-2011        40.9c

 

Er enghraifft 

Os mai £15,000 yw gwerth ardrethol eich busnes, byddech yn defnyddio lluosydd 2024-25 (56.2c) i amcangyfrif eich trethi busnes fel a ganlyn:

£15,000 (gwerth ardrethol) x £0.562c (lluosydd) - £8,430. 

Ffigwr sylfaenol yw hwn cyn cael unrhyw ostyngiadau.