Deddf y Tlodion Sir Drefaldwyn: Cofnodion Bwrdd Gwarcheidwaid
Mae'n bosibl na fydd yn bosibl gweld rhai cofnodion. Cysylltwch ag Archifau Powys i gael rhagor o fanylion.
* Undeb Y Drenewydd a Llanidloes, gweler hefyd M/H/3 a M/H/4; * Undeb Llanfyllin gweler P/CD/CE
|
|
Llyfr Adroddiadau Swyddog Wyrcws Ffordun, 1795-1798 wedi'i ddigido.
Roedd Undeb Trefaldwyn a'r Pwll yn undeb wirfoddol a sefydlwyd yn dilyn Deddf Gilbert 1782. Wedi hynny cafwyd Undeb Ffordun yn 1870. Cafodd yr undebau eraill eu sefydlu'n orfodol gan Ddeddf 1834.
Gwybodaeth Ychwanegol
Yn y lle cyntaf Comisiwn Cyfraith y Tlodion oedd yn gyfrifol am y system, ond yn 1847 daeth Bwrdd Cyfraith y Tlodion yn ei le. Yn 1871 sefydlwyd y Bwrdd Llywodraeth Leol gyda chylch gorchwyl oedd yn cynnwys Cyfraith y Tlodion. Yn sgil Deddf Iechyd y Cyhoedd 1872, sefydlwyd awdurdodau iechydol trefol a gwledig ( a ddaeth yn gynghorau dosbarth gwledig a threfol yn 1894).
Cafodd y Byrddau Gwarcheidwaid, undebau a thlotai eu diddymu yn dilyn Deddf Llywodraeth Leol 1929 gan drosglwyddo'u pwerau i'r cynghorau sir trwy Bwyllgorau ac adrannau Cymorth i'r Cyhoedd (gweler cynghorau sir). Cafodd system Cyfraith y Tlodion ei ddiddymu'n llwyr yn 1948.