Beth sy' mlaen yn Amgueddfa Powysland Y Lanfa
| Mae gan yr Amgueddfa raglen gyson o arddangosfeydd bywiog a dros dro ar amrywiaeth eang o bynciau. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion ar y dudalen hon am ragor o wybodaeth. Mae gennym raglen reolaidd o weithgareddau difyr i'r teulu yn Amgueddfa Powysland.
|
Manylion cadw lle
Mae ein holl ddigwyddiadau'n cael eu hysbysebu'n lleol cyn pob gwyliau ysgol ac mae angen cadw lle o flaen llaw oherwydd eu poblogrwydd. Cysylltwch â Ni am ragor o fanylion a thaliadau.
Rhaid i blant dan 8 oed fod yng nghwmni oedolyn ar gyfer gweithgareddau y tu mewn i Amgueddfeydd ac ar gyfer teithiau cerdded, rhaid i bob plentyn dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.