Llogi tir ar gyfer achlysuron cymunedol
Mae'r tîm Hamdden Awyr Agored yn gyfrifol am reoli nifer fawr o gyfleusterau amwynderau cyhoeddus ledled Powys.
Mae hyn yn cynnwys parciau a mannau agored, ardaloedd chwarae, meysydd chwaraeon, coetiroedd, rhandiroedd a hyd yn oed Gwarchodfa Natur Leol.
Mae rhai o'r cyfleusterau hyn ar gael i'w llogi ar gyfer achlysuron cymunedol.