Cymorth i athletwyr dawnus
Ein nod yw annog rhagoriaeth trwy gefnogi athletwyr dawnus i gyflawni eu potensial. Rydym yn gweithio i gynyddu cyfranogiad, datblygu perfformiad mewn chwaraeon a helpu cyrff llywodraethu chwaraeon Cymreig i sicrhau fod cyfleoedd yn cael eu darparu ar gyfer cystadleuaeth a hyfforddiant.
Grantiau cefnogi athletwyr
Mae grantiau bychain ar gael i athletwyr sydd wedi'u lleoli ym Mhowys sy'n perfformio ar lefel grwp oedran cenedlaethol neu sydd o fewn yr 20 uchaf yng Nghymru o fewn camp, trwy Gyngor Chwaraeon Ardal Sir Drefaldwyn a Phartneriaeth Chwaraeon Brycheiniog a Maesyfed.
Nod y ddau gynllun yw helpu athletwyr gyflawni eu potensial trwy ddarparu help tuag at gostau hyfforddi, cystadlu ac offer.
Ddim ar gael ar hyn o bryd
Mynediad Am Ddim at Bobl Chwaraeon Cenedlaethol (FANS)
Mae'r cynllun hwn yn darparu mynediad am ddim i gyfleusterau hamdden Cyngor Sir Powys ar gyfer unrhyw chwaraewyr sy'n perfformio naill ai ar lefel grwp oedran cenedlaethol neu o fewn yr 20 uchaf yng Nghymru.
Mae athletwyr cymwys yn derbyn cerdyn Cynllun FANS Powys sy'n ddilys am 12 mis.
Cais Cynllun FANS Cyngor Sir Powys Cais Cynllun FANS Cyngor Sir Powys
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma