Gwneud cais am grant chwaraeon
Trwy gronfa SPORTLOT y Loteri Genedlaethol y bydd clybiau'n cael y mwyafrif o'u harian ar hyn o bryd. Cronfa sy'n cael ei gweinyddu gan Chwaraeon Cymru yw SPORTLOT. Mae pecynnau ariannu'n newid yn gyson felly mae'n bosibl fod mwy o grantiau ar gael na'r rheini sydd ar y rhestr hon.
Grantiau Cyngor Chwaraeon Dosbarth
Mae Cyngor Chwaraeon Dosbarth Maldwyn yn rhedeg tri chynllun grant. Rhaid derbyn yr holl geisiadau erbyn diwedd Mawrth a diwedd Medi bob blwyddyn.
Mae'r yn darparu cymorth ariannol i alluogi athletwyr ym Maldwyn sy'n ddarpar bencampwyr i gyrraedd eu potensial. Rhaid i athletwyr fod yn gymwys neu fod wedi'u dewis i gystadlu ar lefel genedlaethol neu'n uwch.
Mae grantiau o hyd at £200 y flwyddyn ar gael ond mae'n rhaid i'r campau fod yn rhai sy'n cael eu cydnabod gan Chwaraeon Cymru. Bydd panel o gynrychiolwyr o Gyngor Chwaraeon Dosbarth Maldwyn yn asesu'r ceisiadau.
I gael rhagor o wybodaeth, cysyllwch â'n tîm Datblygu Chwaraeon gan ddefnyddio'r manylion cysylltu ar y dudalen.
Gwneud cais am Grant Chwaraeon
Gallwch gael ffurflen gais oddi ar wefan Chwaraeon Cymru. Os ydych eisiau help i lenwi'r ffurflen, gallwch gysylltu ag un o'r Swyddogion Datblygu Chwaraeon gan ddefnyddio'r manylion ar y dudalen hon.
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma