Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ceisiadau i gywiro'r Gofrestr Tir Comin

Mae aelodau'r cyhoedd erbyn hyn yn gallu ymgeisio i wneud newidiadau i'r Gofrestr Tir Comin yng Nghymru, os ydynt yn credu ei bod yn anghywir a bod ganddynt dystiolaeth i gefnogi hynny.

Mae'r Rheoliadau yn esbonio'r mathau o geisiadau y gellir eu gwneud a'r ffordd y byddant yn cael eu prosesu a'u penderfynu.

Mae ffioedd i'w talu am rai mathau o geisiadau 'cywiro'. Ar gyfer y rhain, bydd disgwyl i ymgeiswyr dalu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r broses, a fydd yn cynnwys amser y Cyngor wrth:

  1. Wirio fod ceisiadau wedi cael eu 'gwneud yn ddilys', gyda'r wybodaeth gefnogi sy'n ofynnol; cynghori ymgeiswyr am y camau nesaf a /neu unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen;
  2. Hysbysebu ac anfon unrhyw hysbysiad ffurfiol am y cais, gan gynnwys paratoi dogfennau a sicrhau eu bod ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd;
  3. Codi rhybuddion safle, ar gyfer y mwyafrif (ond nid y cyfan) o geisiadau;
  4. Trafod gyda'r ymgeisydd a gwrthwynebwyr os y gwneir gwrthwynebiadau, er mwyn caniatau cyfnewid sylwadau;
  5. Gwneud penderfyniad ar y cais.
  6. Hysbysu'r ymgeisydd ac eraill am ganlyniad y cais.

Mae'r gost o asesu'r ceisiadau hyn yn adlewyrchu'r ffaith y bydd angen mewnbwn arbenigol a chyfreithiol ar Gofrestru Tir Comin.

Dangosir y ffi y dylid ei chyflwyno gyda phob math o gais isod yn y tabl sydd wedi'i atodi. Dyma isafswm y gost er mwyn prosesu'r cais hyd at ei gwblhau, os na wneir unrhyw wrthwynebiadau. Dangosir y rhanddaliadau sy'n daladwy ar gyfer ceisiadau y gwrthwynebir isod hefyd.

Bydd y penderfyniad am ganlyniad ceisiadau unigol yn cael eu gwneud naill ai gan y Cyngor, fel yr Awdurdod Cofrestru Tir Comin, neu gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Bydd hyn yn dibynnu ar y math o gais a wneir ac a oes gwrthwynebiad ai peidio iddo. Ceisiwch fod yn ymwybodol o'r canlynol:

  • Wrth wneud penderfyniad ar gais, efallai y bydd angen i'r Cyngor roi cyfle i wrthwynebwyr ac eraill i gael eu clywed. Efallai y bydd angen cynnal gwrandawiad, neu ymchwiliad cyhoeddus; cost ymchwiliad cyhoeddus gydag arolygydd annibynnol yw o leiaf  £2000;

  • Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ail-godi tâl ar yr ymgeisydd, os y bydd angen cyfeirio cais atynt hwy. Byddant yn cynghori'r ymgeisydd am eu ffioedd ar adeg cyfeirio'r cais.

Gweler y ffurflenni cais a'r nodiadau cyfarwyddyd atodedig am ragor o wybodaeth.

Tir comin a meysydd trefi: cywiro gwall yn y gofrestr (CA10 W) | LLYW.CYMRU

Tir comin a meysydd trefi: cywiro tir comin sydd wedi'i gamgofrestru neu heb ei gofrestru (CA13 W) | LLYW.CYMRU

Tir comin a meysydd trefi: canllaw ar sut i gywiro gwallau | LLYW.CYMRU

 

Noder y bydd Cyngor Sir Powys yn cofnodi'r amser gwirioneddol a gymerir ac yn hysbysu ymgeiswyr os bydd y costau yn fwy na'r symiau a ddangosir. Rhaid talu'r holl randdaliadau cyn y cyflawnir unrhyw waith pellach ar y cais gan y Cyngor.