Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Mae diwrnodau ailgylchu a chasglu gwastraff yn newid

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Gwasanaethau Diwylliannol

Ar y dudalen hon

Nid oes unrhyw benawdau ar y dudalen hon i lywio iddynt.

Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn nodi sut mae Cyngor Sir Powys yn casglu, defnyddio a rhannu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion gwasanaethau Archifau, Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd.

Pwy ydyn ni a sut i gysylltu â ni?

Archifau Powys
Uned 29
Parc Menter Ffordd y Ddol
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

Ebost: archive@powys.gov.uk

Ffôn: 01597 826088

Swyddog Diogelu Data (SDD):

Gellir cysylltu â'r SDD ar gyfer CSP trwy ebost ar information.compliance@powys.gov.uk.

Pa wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei phrosesu amdanoch chi?

Er mwyn darparu gwasanaethau Archifau, Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd i chi, efallai y byddwn yn prosesu'r wybodaeth ganlynol amdanoch chi:

  • Enw, cyfeiriad, manylion cyswllt gan gynnwys rhif ffôn a chyfeiriad ebost, a dyddiad geni
  • Enwau defnyddwyr a rhifau tocynnau sy'n unigryw i chi
  • Eitemau llyfrgell rydych chi wedi'u benthyg a gofyn amdanynt
  • Eich pwnc ymchwil ac unrhyw ymchwil yr ydym wedi'i wneud ar eich cyfer
  • Eitemau yr ydym wedi'u copïo i chi, eitemau rydych chi wedi tynnu lluniau ohonynt, ac eitemau sydd wedi'u trwyddedu i chi eu defnyddio
  • Gwybodaeth am daliadau a thrafodion
  • Delweddau ar ffurf fideo a/neu ffotograffig, lle rydych wedi rhoi eich caniatâd i ni wneud hynny
  • Eich delwedd wedi'i dynnu trwy ffilmiau teledu cylch cyfyng (bydd arwyddion yn nodi pan mae hyn yn berthnasol)
  • Gwybodaeth am ymweliadau â'n gwefan, gan gynnwys eich cyfeiriad IP, math o borwr, tudalennau yr ymwelwyd â nhw, a lleoliad.
  • Gwybodaeth rydych chi'n ei rhannu gyda ni trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a'n gwefan.
  • Cofnodion o'ch presenoldeb mewn digwyddiadau a ddarperir gennym ni, boed hynny ar ein pennau ein hunain neu mewn cydweithrediad â sefydliadau partner.
  • Gwybodaeth rydych chi'n ei rhannu gyda ni drwy ebyst a llythyrau
  • Ffurflenni caniatâd wedi'u llofnodi ar gyfer benthyg offer
  • Cofnodion o ddefnydd o gyfrifiaduron cyhoeddus ac argraffu
  • Cofnodion o ddefnydd data a defnydd apiau wrth fenthyg iPads

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu er mwyn:

  • Sicrhau bod gwasanaethau llyfrgell yn cael eu darparu yn unol â gofynion statudol
  • Darparu mynediad i chi at wasanaethau ychwanegol fel defnyddio'r rhyngrwyd mewn llyfrgelloedd a benthyg e-lyfrau arlein, os ydych wedi gofyn amdanynt
  • Caffael eitemau rydych chi wedi'u cyflwyno neu eu rhoi fel rhodd i ni
  • Monitro a gwerthuso ansawdd y gwasanaeth a ddarparwn
  • Cynhyrchu ystadegau ac adroddiadau i ymchwilio a chynllunio gwasanaethau newydd
  • Ymateb i ymholiadau a chwynion
  • Adolygu effaith rhaglenni a gyflwynir
  • Rhannu gwybodaeth farchnata am ein gwasanaethau ac i hyrwyddo ein rhaglenni gweithgareddau, gyda'ch caniatâd.
  • Rhoi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaethau, lle rydych wedi cytuno i dderbyn y wybodaeth honno.
  • Rheoli eich rhyngweithiadau â'n gwefan neu ein wi-fi cyhoeddus
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau iechyd a diogelwch, gan gynnwys dogfennu digwyddiadau a chynnal asesiadau risg ar gyfer gwirfoddolwyr.

Er mwyn ein helpu i lunio ystadegau dienw, efallai y byddwn yn gofyn am wybodaeth wirfoddol am ryw, cefndir ethnig, ac anabledd. Ni chaiff y data hwn ei ddefnyddio i adnabod unigolion, a gallwch ddewis os ydych am ei ddarparu.

Ni ddefnyddir system gwneud penderfyniadau awtomataidd (yn cynnwys proffilio).

Gyda phwy y gallwn rannu eich gwybodaeth bersonol?

Cedwir y data sydd gennym am aelodau'r llyfrgell ar gronfa ddata ddiogel a rennir gyda gwasanaethau llyfrgelloedd awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, ond dim ond i ddarparu gwasanaethau llyfrgell i chi o fewn Llyfrgelloedd Powys y defnyddir eich gwybodaeth.

Efallai y bydd gan gyflenwr ein system feddalwedd Rheoli Llyfrgelloedd fynediad at eich data hefyd, ond dim ond yng nghyd-destun gweinyddu a chefnogi'r system y bydd hyn yn cael ei ddefnyddio.

Fel arfer, ni fyddwn yn rhannu gwybodaeth o'n System Rheoli Llyfrgelloedd gyda sefydliadau eraill heb eich caniatâd, oni bai bod sail gyfreithlon arall yn bodoli neu bod yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith, er diogelwch y cyhoedd, neu er mwyn atal y risg o niwed.

Y Sail Gyfreithiol (Beth sy'n caniatáu inni brosesu eich data personol):

Byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni nodi pa sail gyfreithiol y mae'n dibynnu arni i brosesu eich data personol.

I brosesu eich data personol yma, rydyn ni'n dibynnu ar y canlynol:

  • Eich caniatâd mewn rhai amgylchiadau. Pan fydd hyn yn berthnasol, gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Gallwch wneud hyn trwy gysylltu â ni drwy'r manylion a ddarperir uchod.
  • Rhwymedigaeth gytundebol.
  • Ein rhwymedigaeth i gyflawni tasg gyhoeddus.

Am ba mor hir y byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol?

Gellir gweld manylion am ba hyd y bydd gwybodaeth bersonol amdanoch yn cael ei chadw yn Atodlen Cadw Cyngor Sir Powys. Gallwch gael mynediad at y wybodaeth hon yma: Cadw a dinistrio cofnodion  Ar ddiwedd y cyfnod cadw, caiff gwybodaeth ei dileu.

Gwybodaeth bellach:

I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu eich data personol, yr hawliau y mae gennych hawl i'w harfer megis yr hawl i fynediad, a manylion cyswllt y comisiynydd, gweler ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol Diogelu Data a Phreifatrwydd

Diweddarwyd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn ar: 19/02/2026